Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu
Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dyfed-Powys, yr wyf wedi cwblhau Cynllun Heddlu a Throseddu newydd, sy’n nodi fy mlaenoriaethau hyd at 2025.
Ategir hyn gan gynllun cyflawni a fydd yn amlinellu’r modd y bydd fy mlaenoriaethau’n cael eu bodloni a’r mesurau a roddir ar waith er mwyn sicrhau bod ein cynnydd yn cael ei olrhain ac ar gael i’r cyhoedd graffu arno.
Bydd y cynllun cyflawni’n cynnwys y Mesurau Trosedd a Phlismona Cenedlaethol a sefydlwyd gan y Swyddfa Gartref sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol: -
- Lleihau llofruddiaethau a lladdiadau eraill
- Lleihau trais difrifol
- Aflonyddu ar gyflenwi cyffuriau a llinellau cyffuriau
- Lleihau troseddau cymdogaeth, gan gynnwys bwrgleriaeth, dwyn a lladrata
- Gwella bodlonrwydd dioddefwyr, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddioddefwyr cam-drin domestig
- Mynd i’r afael â seiberdroseddu
Dyma sut mae'r Llu yn cyfrannu at y mesurau cenedlaethol:
Darllenwch sut mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi graddio perfformiad Heddlu Dyfed-Powys yma.
Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu
Mae’r Bwrdd Atebolrwydd Plismona’n canolbwyntio ar gyflwyno gwasanaeth yn erbyn fy mlaenoriaethau a amlinellir yn y Cynllun Heddlu a Throseddu. Mae’r Bwrdd Atebolrwydd Plismona’n cyfarfod ar sail chwarterol. Mae’n gyfarfod cyhoeddus ac fe hysbysir y cyhoedd amdano ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu o leiaf ddwy wythnos cyn dyddiad y cyfarfod. Bydd y Bwrdd Atebolrwydd Plismona’n ystyried y themâu a drafodwyd yng nghyfarfodydd y Bwrdd Plismona a gynhaliwyd yn ystod y chwarter yn ogystal ag unrhyw waith a gyflawnwyd i gefnogi’r materion a godwyd. Bydd y Bwrdd Atebolrwydd Plismona hefyd yn derbyn adroddiad perfformiad mewn perthynas â darparu gwasanaeth yn erbyn fy mlaenoriaethau a amlinellir yn y Cynllun Heddlu a Throseddu.
Medrwch ddod o hyd i’r dogfennau allweddol yma.
Cynhelir y Bwrdd Atebolrwydd Plismona Nesaf: TBC
Os oes gennych chi gwestiwn am y cyfarfod yn cynnwys os fydd yn bosib i chi fynychu cysylltwch gyda Swyddfa'r Comisiynydd drwy e-bostio opcc@dyfed-powys.police.uk
Cyfarfodydd Cyn 2023 yn archif