No meetings available to display

Rydyn ni’n edrych am bobl dalentog a brwdfrydig i ymuno â Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys 

Yma, cewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am gyfleoedd gyrfa sydd gyda ni yn y swyddfa ar hyn o bryd.  

Cynlluniau gwirfoddoli  
Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod ein gweithlu’n cynrychioli ein cymunedau, ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn derbyn ceisiadau gan ein cymunedau amrywiol. Rhowch wybod inni os hoffech unrhyw gymorth i gwblhau ffurflen gais, neu os oes angen ffurflen gais arnoch ar ffurf amgen.  

Ymwelwyr Annibynnol âDalfeydd - Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn ymweld â dalfeydd yr heddlu er mwyn gwirio ar les carcharorion a sicrhau y cynhelir eu hawliau. Maen nhw’n ymweld â gorsaf heddlu leol mewn parau, yn ddirybudd, ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, ac yn darparu gwiriad annibynnol ar les y carcharorion yn y ddalfa, a'u hamodau. Cewch wneud cais drwy’re-ffurflen neu drwy lawrlwytho ein ffurflen gais. 

Panel Sicrhau Ansawdd- Sefydlwyd y Panel Sicrhau Ansawdd er mwyn craffu ar ansawdd cyswllt yr Heddlu â’r cyhoedd, mewn modd tryloyw ac annibynnol, ar ran y cymunedau o fewn ardal Dyfed-Powys. Cewch wneud cais drwy’re-ffurflen neu drwy lawrlwytho ein ffurflen gais. 

Cynllun Llysgenhadon Ieuenctid - Ein nod gyda’r Cynllun Llysgenhadon Ieuenctid yw sicrhau fod cynifer o bobl ifainc â phosibl yn cael cyfle i lunio dyfodol plismona ac atal trosedd ar draws ardal Dyfed-Powys. Os ydych chi rhwng 16 a 25 oed ac mae gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy,cliciwch yma.