Mae heddluoedd a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi comisiynu’r elusen annibynnol Crimestoppers i weithredu gwasanaeth lle gall y cyhoedd adrodd am lygredigaeth a cham-drin difrifol gan swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr heddlu’n ddienw neu’n gyfrinachol.   

Mae Gwasanaeth Adrodd am Wrth-lygredigaeth a Cham-drin yr Heddlu yn caniatáu i bobl adrodd am ddigwyddiadau sy’n ymwneud â swyddogion, staff neu wirfoddolwyr yr heddlu sydd yn: 

  • Darparu gwybodaeth neu ddylanwad yn gyfnewid am arian neu ffafrau. 
  • Defnyddio eu sefyllfa plismona ar gyfer mantais bersonol - boed yn ariannol neu fel arall. 
  • Croesi ffiniau proffesiynol neu’n camddefnyddio eu swydd at ddibenion rhywiol.  
  • Cam-drin neu reoli eu cymar, neu’r rhai maent mewn perthynas gyda nhw. 
  • Cymryd rhan mewn ymddygiad hiliol, homoffobig, casineb at ferched neu’n gas tuag at bobl anabl – tra ar ddyletswydd neu oddi ar ddyletswydd, wyneb yn wyneb neu ar y we. 

Mae Crimestoppers yn derbyn adroddiadau am unigolion a gyflogir gan unrhyw wasanaeth heddlu yn y DU, ni waeth pa un ai a ddigwyddodd ar ddyletswydd neu oddi ar ddyletswydd, ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gellir cyflwyno adroddiadau ar-lein, ac mae galwadau ffôn i’r gwasanaeth am ddim.  

 

Wrth ddefnyddio’r gwasanaeth, gall unigolion ddewis aros yn gwbl ddienw neu ddarparu eu manylion cyswllt os ydynt yn barod i dîm ymchwilio’r heddlu gysylltu â nhw. 

Rhoddir gwybodaeth a dderbynnir gan Crimestoppers i uned arbenigol yr heddlu perthnasol, megis yr adrannau Gwrth-lygredigaeth neu Safonau Proffesiynol. Gall y wybodaeth gael ei chyflwyno i dditectifs arbenigol er mwyn iddynt gychwyn ymchwiliad, gweithredu er mwyn diogelu rhywun mewn perygl, neu gael ei recordio er mwyn cefnogi ymchwiliadau yn y dyfodol. 

Mae’r gwasanaeth hwn yn ategu gweithdrefn gwyno bresennol pob heddlu ac mae wedi’i lunio’n benodol ar gyfer ymdrin ag adroddiadau am lygredigaeth a cham-drin difrifol gan swyddogion a staff yr heddlu sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd.  

Er mwyn cyflwyno adroddiad, galwch heibio i wefan Crimestoppers neu galwch 0800 085 0000