Llysgenhadon Ieuenctid SCHTh Dyfed-Powys yn cymryd rhan mewn Panel Craffu Ieuenctid

Daeth pobl ifainc o’n cynllun Llysgenhadon Ieuenctid at ei gilydd ddydd Mawrth 8 Medi i gymryd rhan mewn Panel Craffu Llysgenhadon Ieuenctid. 

Rhoddodd y sesiwn gyfle pwysig i’r Llysgenhadon Ieuenctid rannu eu barn, holi cwestiynau a chynnig safbwynt unigolyn ifanc ar faterion sy’n effeithio ar eu cymunedau.

Drwy drafodaeth agored ac adeiladol, arddangosodd y llysgenhadon y rôl bwysig gall pobl ifainc chwarae mewn craffu ar wasanaethau a helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau yn y dyfodol.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Mae ein Llysgenhadon Ieuenctid yn sicrhau y gall pobl ifainc gael llais ystyrlon mewn materion sy’n effeithio arnyn nhw a’u cyfoedion. Mae eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad yn werthfawr iawn, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran.”

Mae’r cynllun Llysgenhadon Ieuenctid yn galluogi pobl ifainc i gynrychioli eu cymheiriaid, datblygu sgiliau newydd, a chyfrannu at waith Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Rydyn ni’n derbyn ceisiadau ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd. Cewch ragor o wybodaeth a gwneud cais drwy ein gwefan: Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 09/09/2026