CHTh yn ymweld â Llanelli ar gyfer Diwrnod Ymgysylltu Cymunedol Throseddu
Ar 9 Medi 2026, ymwelodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh), â Llanelli fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol a oedd yn canolbwyntio ar gwrdd â phartneriaid lleol a chlywed am faterion sy’n effeithio ar yr ardal.
Roedd y diwrnod yn cynnwys ymweliad â Choleg Sir Gâr, lle y cyfarfu’r Comisiynydd â’r pennaeth Kirsty Lloyd a staff a myfyrwyr. Wedi hynny, cafodd drafodaethau gyda’r Cynghorydd Louvain Roberts a’r Cynghorydd Sean Rees yn Neuadd y Dref Llanelli.
Daeth yr ymweliad i ben â Phanel Craffu Cymunedol. Rhoddodd y panel gyfle i gyfranogwyr rannu eu barn a chyfrannu at graffu ar blismona a diogelwch cymunedol ar draws yr ardal. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r panel yn eich ardal chi, ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen we Craffu Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
Dywedodd y Comisiynydd Llywelyn:
“Rwy’n ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i siarad gyda mi drwy gydol y dydd. Mae diwrnodau Ymgysylltu Cymunedol yn rhoi cyfle gwerthfawr imi gwrdd ag aelodau o’r cyhoedd a thrafod y materion sydd fwyaf pwysig iddynt. Hoffwn ddiolch hefyd i’r rhai a wirfoddolodd ar gyfer ein Panel Craffu Cymunedol. Ni fyddai’r paneli hyn yn gweithio heb ymrwymiad ein gwirfoddolwyr, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn gryf i wneud cais drwy ein tudalen we.”
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 10/09/2026