Nigel Owens yn brif westai cynhadledd seiberwydnwch ar gyfer busnesau
Anogir busnesau a sefydliadau i gryfhau eu seiberwydnwch mewn cynhadledd am ddim yn Llanelli fis nesaf, sy’n dod ag arbenigwyr seiberddiogelwch blaenllaw, gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, a’r siaradwr gwadd, Nigel Owens MBE, at ei gilydd.
Wedi’i chynnal gan Ganolfan Seiberwydnwch Cymru mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, bydd y gynhadledd yn dod ag arbenigwyr seiberddiogelwch a sefydliadau at ei gilydd i rannu cyngor ymarferol, mewnwelediadau o’r byd go iawn a’r canllawiau diweddaraf ar gryfhau seiberwydnwch. Mae’r digwyddiad ar agor i sefydliadau o bob maint, o unig fasnachwyr i fusnesau mwy, gyda chyngor ymarferol ar gyfer pawb, nid dim ond gweithwyr TG proffesiynol.
Cynhalir y gynhadledd ddydd Iau 17 Medi ym Mharc y Scarlets.
Gyda seiberdroseddu’n parhau i esblygu, mae sefydliadau o bob maint yn wynebu bygythiadau sy’n gynyddol soffistigedig. Bydd y gynhadledd yn darparu cyngor ymarferol, mewnwelediadau o’r byd go iawn a chamau syml y gall busnesau a sefydliadau eu cymryd i gryfhau eu seiberwydnwch a diogelu eu hunain yn well rhag seiberdroseddu.
Tra bod seiberddiogelwch yn aml yn cael ei ystyried yn fater TG, mae seiberwydnwch yn dibynnu ar bawb o fewn sefydliad. Gan hynny, mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio ar gyfer perchnogion busnes, arweinwyr uwch, rheolwyr, gweithwyr a gwirfoddolwyr, gan gynnig arweiniad ymarferol y gall sefydliadau o bob maint eu rhoi ar waith.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn clywed gan arbenigwyr seiberddiogelwch, cynrychiolwyr o Heddlu Dyfed-Powys, a’r siaradwr gwadd, Nigel Owens MBE, a fydd yn rhannu mewnwelediadau yn ystod prynhawn o gyflwyniadau arbenigol, cyngor ymarferol a chyfleoedd rhwydweithio. Darperir cinio a lluniaeth am ddim hefyd, gan gynnig cyfle i’r rhai sy’n bresennol rwydweithio cyn a thrwy gydol y digwyddiad.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Nid yn unig sefydliadau mawr mae troseddwyr seiber yn eu targedu. Mae busnesau bach, elusennau a grwpiau cymunedol yn cael eu targedu fwyfwy hefyd, gan ei gwneud hi’n bwysicach nag erioed bod sefydliadau’n deall sut i ddiogelu eu hunain.
“Mae’r gynhadledd hon yn cynnig cyfle gwych i glywed gan arbenigwyr, dysgu ffyrdd ymarferol i leihau perygl a chryfhau gwydnwch yn erbyn bygythiadau seiber sy’n dod i’r amlwg.
“P’un a ydych chi’n unig fasnachwr, yn elusen, yn fusnes bach neu’n sefydliad mwy, byddwn yn eich annog i gofrestru a gwneud y mwyaf o’r cyfle gwerthfawr hwn.”
Mae’r gynhadledd am ddim, ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd, felly mae’n rhaid archebu ymlaen llaw.
📅 17 Medi 2026
⏰ 13:00-17:00
📍 Parc Y Scarlets
Er mwyn cael gwybod mwy a chofrestru, galwch heibio i: Sioe Deithiol Seiberwydnwch Cymru
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 25/08/2026