Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Beth yw adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Mae adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol, a elwir hefyd yn sbardun cymunedol, yn broses sy’n caniatáu i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol ofyn am adolygiad o’u hachos. Mae’n dod ag asiantaethau ynghyd er mwyn edrych ar ba gamau sydd wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’u pryderon ac a ellir gwneud mwy. Mae’r adolygiad achos yn grymuso’r bobl sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol dro ar ôl tro i ofyn am adolygiad o’r camau y mae asiantaethau partner wedi’u cymryd i ddatrys eu pryderon.
Pwy all ofyn am adolygiad achos?
Gall dioddefwr uniongyrchol ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran, fel gofalwr, aelod o’r teulu neu weithiwr cymorth, ofyn am adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall busnesau a grwpiau cymunedol hefyd wneud cais.
Pryd y gallwch ofyn am adolygiad achos
I fod yn gymwys, mae angen i chi fod wedi profi ac wedi adrodd am y canlynol:
- tri digwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y chwe mis diwethaf i’r cyngor, yr heddlu neu’r landlord lle nad oes unrhyw gamau effeithiol wedi’u cymryd.
- un drosedd gasineb neu ddigwyddiad lle nad oes unrhyw gamau effeithiol wedi’u cymryd.
- lle mae uwch-swyddog priodol o fewn awdurdod cyfrifol yn adolygu’r dystiolaeth a gyflwynir gan bob parti ac yn credu bod digon o dystiolaeth i gychwyn adolygiad achos waeth beth fo rôl ceisydd yr adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae angen i bob un o’r digwyddiadau fod wedi cael eu hadrodd o fewn mis iddynt ddigwydd, gan yr un person a rhaid i chi wneud cais am adolygiad achos o fewn chwe mis i’r digwyddiad diweddaraf.
Sut i ofyn am adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol
Gellir gwneud ceisiadau ar-lein, drwy e-bost, dros y ffôn neu yn ysgrifenedig. Gofynnir i chi roi manylion am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol, pryd y cafodd ei riportio, a pha asiantaethau oedd yn gysylltiedig. Mae cymorth ar gael os oes angen help arnoch i wneud cais.
Dilynwch y ddolen hon i weld sut i wneud cais: Ffurflen Apêl Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Beth sy’n digwydd ar ôl gwneud cais
Unwaith y bydd eich cais yn dod i law, bydd yn cael ei wirio i weld a yw’n bodloni’r trothwy ar gyfer adolygiad. Os bydd yn gwneud hynny, bydd yr achos yn symud i’r cam adolygu. Os na fydd, dywedir wrthych y rhesymau pam a chewch gyngor ar y camau nesaf neu fathau eraill o gefnogaeth.
Beth sy’n digwydd yn ystod yr adolygiad
Bydd asiantaethau dan sylw yn rhannu gwybodaeth berthnasol am yr achos, gan gynnwys adroddiadau a wnaed, camau a gymerwyd, ac unrhyw risgiau a nodwyd. Mae hyn yn sicrhau darlun cyflawn o’r sefyllfa ac yn helpu i nodi a gollwyd cyfleoedd i weithredu’n wahanol.
Cynhelir yr adolygiad gan banel sy’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau fel yr heddlu, yr awdurdod lleol, darparwyr tai a phartneriaid perthnasol eraill. Mae pob asiantaeth yn cyfrannu ei safbwynt a’i chyfrifoldebau mewn perthynas â’r achos.
Bydd y panel yn ystyried a oedd y camau gweithredu yn rhesymol, yn amserol ac yn gymesur.
Yn dilyn yr adolygiad, gall y panel wneud argymhellion ar gyfer camau gweithredu pellach. Gallai’r rhain gynnwys gorfodi ychwanegol, cefnogaeth i’r dioddefwr, newidiadau i’r ffordd y mae asiantaethau’n cydweithio, neu atgyfeirio at wasanaethau arbenigol.
Bydd yr argymhellion hyn yn cael eu cyfleu i’r dioddefwr.
Beth i’w wneud os nad ydych chi’n fodlon ar ganlyniad yr adolygiad achos
Os nad ydych yn fodlon ar sut y cynhaliwyd yr adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch ofyn am adolygiad o’r broses. Yn Nyfed-Powys, ystyrir hyn drwy Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh). Ni fydd yr SCHTh yn ail-ymchwilio i’r ymddygiad gwrthgymdeithasol ei hun, ond bydd yn ystyried a oedd y broses adolygu a’r canlyniad yn rhesymol ac yn gymesur, ac a ddylid gwneud unrhyw argymhellion.
Gall dioddefwr ofyn am yr apêl hon pan fo un o’r mesurau canlynol wedi’i fodloni:
- Mae’r penderfyniad a wnaed yn amlinellu pam nad oedd yr achos yn cyrraedd y trothwy ar gyfer adolygiad ond mae wedi methu â darparu digon o fanylion i ddeall pam na chynhaliwyd adolygiad.
- Mae’r adolygiad wedi methu ag ystyried proses, polisi neu brotocol perthnasol;
- Mae’r adolygiad wedi methu ag ystyried gwybodaeth ffeithiol berthnasol.
Mae’r rhestr isod yn manylu ar y gwahanol ganlyniadau posibl o’r broses apelio hon:
- Cadarnhau’r apêl a chyfeirio’r achos yn ôl at y panel Adolygu Achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gan ofyn iddynt ystyried proses, polisi neu brotocol penodol nad oedd wedi’i ystyried o’r blaen.
- Cadarnhau’r apêl, gan amlinellu’r wybodaeth ffeithiol berthnasol nad yw’r panel Adolygu Achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi’i hystyried wrth ddod i’w benderfyniad;
- Peidio â chadarnhau’r apêl h.y. penderfynu bod panel Adolygu Achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed-Powys wedi adolygu’r achos drwy ystyried yr holl wybodaeth ffeithiol, polisïau, prosesau a phrotocolau perthnasol yn foddhaol yn unol â’i weithdrefn adolygu achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac wedi dod i benderfyniad gwybodus.
Adolygiad pen desg yw’r broses apelio ac ni fydd yn cynnwys gwrandawiadau na chyfarfodydd â’r dioddefwr(wyr). Os yw’r dioddefwr yn dymuno defnyddio’r weithdrefn apêl, dylid gwneud y cais hwn yn uniongyrchol i’r SCHTh o fewn 28 diwrnod i dderbyn canlyniad yr adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae angen cyflwyno’r holl waith papur perthnasol ynghyd â sail yr apêl (h.y. pam nad yw mesurau 1, 2 neu 3 wedi’u bodloni). Bydd Swyddfa’r Comisiynydd yn ymgymryd â’r apêl ac yn hysbysu’r dioddefwr/dioddefwyr o’r canlyniad (naill ai 1, 2 neu 3 uchod) cyn gynted â phosibl, ac ym mhob achos o fewn 30 diwrnod gwaith.
Sylwer: Mae penderfyniad Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn derfynol ac ni ellir apelio yn ei erbyn.
I wneud cais am apêl, defnyddiwch y ffurflen sydd wedi’i chysylltu isod:
Ffurflen Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Mae gwybodaeth am ystadegau adolygiadau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol i’w gweld yma: Adolygiad Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol
Cymorth sydd ar gael yn ystod y broses
Mae ASB Help, sefydliad sy’n cynnig cymorth i ymdopi ag ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi creu canllaw defnyddiol ar gyfer y broses adolygu achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gweler y ddolen ganlynol i ddarllen y canllaw: Canllaw Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol neu ASBCase Review yn Saesneg
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu hefyd yn comisiynu nifer o wasanaethau cymorth, os hoffech gael rhagor o wybodaeth ewch i’r dudalen ganlynol: Gwasanaethau a Partneriaethau