Bwrdd Perfformiad Strategol
Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dyfed-Powys, yr wyf wedi cwblhau Cynllun Heddlu a Throseddu sy’n nodi fy mlaenoriaethau hyd at 2025.
Ar hyn o bryd rwy'n cwblhau fy Cynllun Heddlu a Throseddu am 2025-2029. Bydd hyn yn cael ei lansio'n ffurfiol yn gynnar yn 2025.
Bydd hyn yn cael ei ategu gan fframwaith perfformiad a fydd hynny'n nodi'r mesurau a fydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod ein cynnydd yn cael ei olrhain ac ar gael ar gyfer craffu cyhoeddus.
Bydd y fframwaith perfformiad yn cynnwys y Mesurau Trosedd a Phlismona Cenedlaethol a sefydlwyd gan y Swyddfa Gartref sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol: -
- Lleihau llofruddiaethau a lladdiadau eraill
- Lleihau trais difrifol
- Aflonyddu ar gyflenwi cyffuriau a llinellau cyffuriau
- Lleihau troseddau cymdogaeth, gan gynnwys bwrgleriaeth, dwyn a lladrata
- Gwella bodlonrwydd dioddefwyr, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddioddefwyr cam-drin domestig
- Mynd i’r afael â seiberdroseddu
Dyma sut mae'r Llu yn cyfrannu at y mesurau cenedlaethol:
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhyd yn archwilio, monitro ac adrodd yn annibynnol ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y Heddlu gyda’r nod o annog gwelliant.
Darllenwch sut mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi graddio perfformiad Heddlu Dyfed-Powys yma.
Bwrdd Perfformiad Strategol
Mae’r Bwrdd Perfformiad Strategol yn cwrdd bob chwarter ac yn rhoi cyfle i oruchwylio a chraffu ar berfformiad yr Heddlu. Bydd yn canolbwyntio ar gyflenwi gwasanaeth yn erbyn y blaenoriaethau a amlinellir yn y Cynllun Heddlu a Throseddu, perfformiad yn erbyn mesurau cenedlaethol a chynhyrchiant sefydliadol.
Bydd cyfarfodydd ar gael i wylio yma
Yn flaenorol, darparu gwasanaeth yn erbyn fy mlaenoriaethau a amlinellwyd yn y Cynllun Heddlu a Throseddu ei drafod yn Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu.
Dydd Mawrth 05 Tachwedd 2024
Dydd Iau 16 Ionawr 2025
Dydd Iau 01 Mai 2025
Dydd Llun 07 Gorffennaf 2025
Dydd Llun 03 Tachwedd 2025