Arolygon ac Ymgynghoriadau
Medrwch ddweud eich dweud a lleisio'ch barn trwy ein ymgynghoriadau ac arolygon rheolaidd.
Maen nhw’n cynnwys prosesau mae’n rhaid i ni ymgymryd â nhw megis eich holi ynghylch y cynnig blynyddol o ran faint ddylech chi dalu ar gyfer plismona trwy’r dreth gyngor. Cewch gynnig dewis o ddulliau ymateb ar gyfer rhain.
Bydd hefyd modd gweld ymgynghoriadau gan ein partneriaid a sefydliadau eraill ar y tudalen hon.
Rho Dy Farn ar Blismona yn Ardal Dyfed-Powys
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, yn galw ar aelodau o’r cyhoedd ledled yr ardal i gymryd rhan mewn arolwg byr er mwyn rhannu eu barn ar blismona lleol.
Mae’r arolwg yn gyfle i breswylwyr, grwpiau cymunedol a gweithwyr proffesiynol ddylanwadu ar benderfyniadau’r dyfodol ynghylch troseddu, diogelwch cymunedol a chyflawni blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throseddu 2025–2029.
Bydd yr arolwg yn cymryd ychydig funudau’n unig i’w gwblhau ac y mae nawr ar agor drwy’r ddolen isod:
🔗 Cliciwch yma i gwblhau'r arolwg
I gael mwy o wybodaeth ynghylch y Cynllun Heddlu a Throseddu, ewch at:
Mae Llysgenhadon Ieuenctid Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn annog pobl ifanc ledled ardal Heddlu Dyfed-Powys i gymryd rhan mewn arolwg newydd sy'n archwilio eu profiadau, eu pryderon, a'u barn ar droseddu yn eu cymunedau lleol.
Mae'r arolwg, a gynlluniwyd gan ein llysgenhadon ieuenctid fel rhan o'u Prosiect Ieuenctid y Dyfodol newydd, yn canolbwyntio ar gasglu adborth gonest gan bobl ifanc 14 i 25 oed ar y materion sydd bwysicaf iddyn nhw. Bydd mewnwelediadau o'r arolwg yn helpu i lywio mentrau, gwasanaethau, a chyfleoedd yn y dyfodol, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion a phryderon pobl ifanc yn ardal blismona Heddlu Dyfed-Powys yn well.
Bydd gan gyfranogwyr gyfle hefyd i gymryd rhan mewn raffl fawr i ennill crys pêl droed Dinas Abertawe wedi’i lofnodi gan Gonçalo Franco. Cyhoeddir yr enillydd ym mis Medi.
Cymerwch ran yn yr arolwg yma: https://forms.office.com/e/Fdf1aLyqZX?origin=lprLink
Mae'r arolwg yn cau ar 25 Medi 2026.