Croesawodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ASau i Bencadlys Heddlu Dyfed-Powys ddydd Gwener 13 Tachwedd ar gyfer sesiwn wybodaeth ar ddiwygio’r heddlu yng Nghymru a heriau i’r heddlu yn lleol.

Daeth y digwyddiad ag arweinwyr yr heddlu a chynrychiolwyr etholedig at ei gilydd i rannu gwybodaeth am y pwysau sy’n wynebu’r heddlu, cynllunio ariannol a gwaith i atal niwed ledled ardal Dyfed-Powys.

Agorodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn y sesiwn wybodaeth â throsolwg o ddiwygio’r heddlu a’i oblygiadau i Gymru. Amlinellodd y Prif Gwnstabl Ifan Charles yr heriau gweithredol ac adlewyrchodd ar ganfyddiadau’r arolygiad PEEL diweddaraf, sy’n mynd i’r afael ag effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu.  

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyllid Heddlu Dyfed-Powys y cynllun ariannol tymor canolig, gan osod y cyd-destun ariannol ar gyfer cyflwyno gwasanaethau plismona yn y dyfodol.

Clywodd cynrychiolwyr am y rhaglen Atal, Ymyrryd ac Ymgysylltu a lansiwyd yn ddiweddar, cyn derbyn cyflwyniad gan Gymorth i Ddioddefwyr am eu gwaith o ran cefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan drosedd. Rhoddodd ymweliad â Chanolfan Gyfathrebu’r Heddlu gyfle i ddysgu mwy am y ffordd y derbynnir galwadau gan y cyhoedd a sut mae’r heddlu’n cydlynu ei ymateb i ddigwyddiadau.

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn:
“Mae cynrychiolwyr etholedig yn clywed gan bobl yn uniongyrchol am y materion sy’n effeithio ar eu cymunedau. Mae dod â nhw ac arweinwyr yr heddlu at ei gilydd yn gyfle pwysig i rannu gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu ein hardal.

“Wrth inni ystyried diwygio’r heddlu a chynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod, mae’n rhaid inni gadw anghenion ein cymunedau wrth wraidd y trafodaethau hynny. Mae hynny’n cynnwys atal niwed, cefnogi dioddefwyr a sicrhau y gall yr heddlu ymateb pan mae pobl eu hangen.

“Hoffwn ddiolch i’r cynrychiolwyr a fynychodd, a phawb a gyfrannodd i’r sesiwn wybodaeth.”

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 13/11/2026