Partneriaethau

Dywed Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011: “Mae gan gomisiynwyr ddyletswydd i weithio gyda phartneriaid er mwyn atal a mynd i’r afael â throsedd” 

Mae’r dyletswyddau partneriaeth allweddol yn cynnwys:

  • Dyletswydd diogelwch cymunedol; dyletswydd gytbwys i gydweithio i leihau trosedd ac anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, aildroseddu a chamddefnyddio sylweddau ​
  • Dyletswydd cyfiawnder troseddol; darparu System Cyfiawnder Troseddol effeithiol ac effeithlon ar gyfer yr ardal heddlu
  • Diogelu; Cyfrifoldeb am ddiogelu plant a phobl ifainc a hybu eu lles

 

Mae’r strwythur isod yn rhoi trosolwg lefel uwch o rai o’r strwythurau partneriaeth allweddol sydd mewn grym ar draws ardal Dyfed-Powys ac yn genedlaethol:

Partneriaid

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Sefydlwyd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ffurfiol o dan Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 gyda’r amcan o wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal. Gwahoddedigion statudol i’r Byrddau yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl, ac maen nhw’n gweithio’n agos â phartneriaid ledled ardal Dyfed-Powys ar yr agenda hwn.

 

Bydd y dolenni isod yn eich tywys i’r gwefannau ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pob ardal:

 

Mae’r Comisiynydd yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn cyflawni rhai o’r meysydd gwaith hanfodol, gan gynnwys cyflwyno’r Cyflog Byw Gwirioneddol i sefydliadau ledled ardal Dyfed-Powys a chyffredinolrwydd ac effaith trais a deimlir gan ein cymunedau. Bydd asiantaethau partner yn ymwneud cryn dipyn â chynllunio a chyflenwi ymyriadau ar gyfer atal trais fel rhan o’r gwaith cydweithredol o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol.

Gweithredu i Atal a Gostwng Trais Difrifol yn Nyfed-Powys

Byrddau Cynllunio Ardal

Cyflwynwyd Byrddau Cynllunio Ardal er mwyn cynnig atebolrwydd a chraffu ar gynllunio camddefnyddio sylweddau, perfformiad a rheolaeth ariannol sy’n eistedd o dan awdurdodau cyfrifol Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Mae Byrddau Cynllunio Ardal hefyd yn gyson â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae CHTh yn gweithio’n agos â phartneriaid er mwyn comisiynu gwasanaethau atal a thriniaeth ar y cyd, gan leihau’r niwed a achosir i unigolion a chymunedau gan gamddefnyddio sylweddau.

Mae’r Comisiynydd wedi gweithio gyda chydweithwyr o’r Bwrdd Cynllunio Ardal er mwyn lleihau’r niwed a achosir gan gamddefnyddio sylweddau. Yn benodol, sicrhau bod dros 800 o staff Heddlu Dyfed-Powys yn awr wedi’u hyfforddi i gario Nalocson, sy’n medru gwrthdroi effeithiau gorddos opioid, gan roi amser hanfodol i unigolion gyrraedd a derbyn triniaeth ac ymyrraeth.

Mae arferion da eraill yn cynnwys y Prosiect Golau Glas, sy’n defnyddio nyrsys sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i ymgysylltu â phobl sy’n galw’r gwasanaethau brys yn aml oherwydd eu defnydd o sylweddau. Mae’r prosiect wedi sicrhau cyllid hirdymor ac yn anelu i leihau’r baich ar yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans yn ogystal â gwasanaethau GIG eraill.

 

Roedd gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ym Mhowys ymhlith y rhai cyntaf i weithredu Pecyn Offer Trawma a Phrofiadau Niweidiol Adeg Plentyndod Hyb ACE Cymru, gan sicrhau bod gwasanaethau’n gwybod yn iawn am drawma ac yn medru nodi ac ymateb yn briodol i’r rhai sydd wedi dioddef profiadau niweidiol adeg plentyndod. Mae hyn yn cynnwys cynllunio canolfannau gwasanaeth yn erbyn model penodol sy’n cefnogi ac yn cynorthwyo ag adfer.