Uned Gofal Tystion
Bydd yr Uned Gofal Tystion yn cefnogi dioddefwyr a thystion ar eu taith drwy'r System Cyfiawnder Troseddol nes bod yr achos wedi'i gwblhau, gan gynnwys atgyfeiriadau o dan y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr a'r Gwasanaeth Prawf, lle bo'n briodol, ac unrhyw apeliadau dilynol. Bydd yr Uned Gofal Tystion yn trafod cynllun cyswllt ac yn sicrhau bod y diweddariadau perthnasol yn cael eu darparu o ran dilyniant yr achos, neu’r gofyniad i fynychu’r llys i roi tystiolaeth.
Os bydd diffynnydd yn pledio'n ddieuog yn y llys, bydd yr Uned Gofal Tystion yn asesu anghenion tystion unigol yn llawn. Mae’r Uned Gofal Tystion yn deall pa mor anodd y gall hyn fod ac mae ganddi gyfoeth o brofiad o gefnogi pobl ar hyd y daith hon. Trwy’r Asesiad Anghenion, gall y Swyddog Gofal Tystion nodi anghenion gan gynnwys:
- Bregusrwydd y dioddefwr/tyst
- Bygythion
- Angen am atgyfeiriadau at asiantaethau cymorth arbenigol (e.e. asiantaeth cymorth Trais Domestig neu Gymorth i Ddioddefwyr)
- Angen ymweliad llys cyn-treial a chymorth dyddiad treial gyda'r Gwasanaeth Tystion
- Unrhyw anghenion arbennig e.e. rhwystrau iaith, anableddau, anawsterau dysgu
- Unrhyw anghenion gofal plant neu gludiant
- Unrhyw anghenion crefyddol neu ddiwylliannol
- Dymuniad i wneud Datganiad Personol Dioddefwr (DPD) neu ychwanegu at DPD presennol
- Angen posibl am fesurau arbennig yn y llys e.e. sgriniau neu gyswllt fideo, tynnu wigiau/gynau barnwr
- Gofyniad gorchymyn atal lle bo'n briodol
Mae anghenion dioddefwr/tyst yn cael eu hasesu’n barhaus yn ystod y cyswllt â’r Uned Gofal Tystion, a bydd y Swyddog Gofal Tystion yn ymdrechu i ddiwallu’r anghenion hyn orau ag y bo modd trwy gysylltu’n agos â Swyddogion yr Heddlu, y CPS, y Gwasanaeth Tystion ac asiantaethau gwirfoddol eraill.
Mae gan yr Uned Gofal Tystion rwymedigaethau o dan y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr ac mae'r Siarter Tystion ar gael i'w gweld ar wefan Gov.uk.
Gellir cysylltu â'r Uned Gofal Tystion ar y rhifau ffôn a'r cyfeiriadau e-bost canlynol.
Llinellau ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ffôn: 01267 2260396