Paladin Logo

Gwasanaeth Eiriolaeth Stelcio Cenedlaethol Paladin

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi prosiect peilot newydd mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Eiriolaeth Stelcio Cenedlaethol Paladin, sy’n lansio ar 1 Medi. Mae’r fenter hon yn rhan o’n hymrwymiad i wella cymorth ar gyfer dioddefwyr stelcio yn ardal Dyfed-Powys.


Ynghylch Paladin

Sefydliad arweiniol yw Gwasanaeth Eiriolaeth Stelcio Cenedlaethol Paladin sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth a hysbysir gan drawma i ddioddefwyr stelcio perygl uwch yng Nghymru a Lloegr. Wedi’i sefydlu yn 2013, mae Paladin wedi bod ar flaen y gad o ran dadlau dros anghenion dioddefwyr stelcio a gweithio i ddylanwadau ar ddeddfwriaethau ac arferion yn y maes hollbwysig hwn.  

Yr hyn y mae Paladin yn ei gynnig
Mae tîm Paladin o Weithwyr Achos Eiriolaeth Stelcio Annibynnol achrededig yn cynnig cyngor arbenigol, cymorth ac eiriolaeth er mwyn sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn yr amddiffyniad a’r cyfiawnder maen nhw’n haeddu. Mae gwasanaethau allweddol yn cynnwys:

Cymorth ac Eiriolaeth ac Arbenigol: Mae Paladin yn darparu cymorth un-i-un ar gyfer dioddefwyr stelcio perygl uwch, gan eu harwain drwy’r system cyfiawnder troseddol a’u helpu i reoli perygl a diogelwch.
 
Cyngor Tymor Byr: Bydd dioddefwyr sy’n cael eu hystyried yn ddioddefwyr perygl is yn derbyn cyngor a chymorth untro er mwyn mynd i’r afael â phryderon ac anghenion uniongyrchol.

Hyfforddiant Proffesiynol: Bydd Paladin yn cyflwyno hyfforddiant i weithwyr proffesiynol lleol, gan gynnwys yr heddlu a gwasanaethau cymorth, i wella eu dealltwriaeth o stelcio a gwella’r ymateb cyffredinol i ddioddefwyr.  

Codi Ymwybyddiaeth: Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o stelcio o fewn y gymuned, gan helpu i nodi a chefnogi dioddefwyr a all gael eu hanwybyddu fel arall.


Nodau’r Prosiect
Mae’r prosiect peilot yn anelu i wneud y canlynol:


Gwella Cymorth i Ddioddefwyr: Darparu eiriolaeth arbenigol ar gyfer dioddefwyr perygl uwch, gan sicrhau eu bod yn derbyn cymorth cynhwysfawr wedi’i deilwra i’w hanghenion.
 
Gwella Capasiti Lleol: Adeiladu arbenigedd lleol drwy hyfforddiant a chydweithio â gweithwyr proffesiynol ar draws sectorau amrywiol.  

Cynyddu Ymwybyddiaeth: Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o effaith stelcio a phwysigrwydd cymorth effeithiol.

Cysylltu a Chymorth

Ar gyfer dioddefwyr stelcio neu’r rhai sy’n ceisio cyngor, galwch heibio i http://www.paladinservice.co.uk am ragor o wybodaeth neu er mwyn cysylltu â’u tîm cymorth.