Gall unrhyw un gael ei effeithio gan wrthdrawiad traffig ffyrdd a gall fod yn brofiad brawychus a thrawmatig iawn.

Mae profedigaethau drwy wrthdrawiadau traffig ffyrdd yn sydyn ac annisgwyl. Mae teuluoedd dioddefwyr yn cael eu gadael ag angen lefelau cymorth uwch am gyfnodau hir. Mae Gwasanaeth Cymorth Dioddefwyr Ffyrdd yn darparu cymorth wedi’i deilwra i deuluoedd mewn galar yn dilyn marwolaeth anwylyn o ganlyniad i wrthdrawiad traffig y ffyrdd.

 

Sut all Cymorth i Ddioddefwyr Helpu
Elusen annibynnol sy’n cynnig cymorth am ddim i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan droseddau a digwyddiadau trawmatig yw Cymorth Dioddefwyr. Rhoddir cymorth i’r rheini sydd wedi’u cyfeirio drwy Swyddogion Cyswllt Teulu’r Heddlu neu'r rhai sydd eisiau hunangyfeirio.

Pennir gweithiwr achos penodedig i bob teulu. Maen nhw’n gweithredu fel pwynt cyswllt unigol, o’r cyfeiriad cyntaf, hyd nes bod dim angen cymorth arnynt mwyach.

Mae’r gweithiwr achos yn darparu cymorth, gan gynnwys:

  • Cymorth personol gyda gweithiwr achos wedi’i hyfforddi’n arbennig, mewn ffordd sy’n gweithio i chi.
  • Siarad yn gyfrinachol, holi cwestiynau, a chael cyngor a chymorth emosiynol.
  • Gwyddwn fod marwolaethau ffyrdd yn effeithio ar y teulu cyfan. Rydyn ni’n cynnig cymorth i bawb sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol, ac rydyn ni’n helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi plant i ymdopi â’r effaith.
  • Eich cysylltu â chymorth, gwasanaethau neu gefnogaeth arbenigol arall.
  • Cyngor a chefnogaeth o ran gwneud cais am iawndal neu gymorth ariannol os ydych chi’n gymwys. (Bydd angen ichi adrodd am y drosedd wrth yr heddlu er mwyn gwneud cais).
  • Gwybodaeth ymarferol i’ch helpu i wneud synnwyr o’r hyn sydd wedi digwydd.
  • Gwybodaeth am y system cyfiawnder troseddol a’r gweithdrefnau llys. Os ydych chi wedi’ch effeithio gan farwolaeth ar y ffordd, rydyn ni’n cynnig cymorth gan staff profiadol sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.

E-bost: walesroadservice@victimsupport.org.uk

Dolen i’r ffurflen gyfeirio:
Gwasanaeth Cymorth Dioddefwyr Ffyrdd

Dyfed-Powys: Gwrthdrawiad Traffig y Ffyrdd  Cymorth i Ddioddefwyr