Logo IOPC

Rôl Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC)

Yr IOPC yw corff gwarchod cwynion yr heddlu sy'n goruchwylio system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Maent yn ymchwilio i'r materion mwyaf difrifol, gan gynnwys marwolaethau yn dilyn cyswllt â'r heddlu ac yn gosod y safonau y dylai'r heddlu ymdrin â chwynion. 

Gellir anfon cwynion am ymddygiad pobl sy'n gwasanaethu gyda'r heddlu i'r IOPC, ond nid oes gan yr IOPC y pŵer i gofnodi cwynion. Os byddwch yn cwyno i'r IOPC, rhaid iddo yn ôl y gyfraith, anfon y gŵyn yn ôl i'r heddlu perthnasol i'w hystyried.

Oherwydd y nifer eithriadol o uchel o gwynion a wnaed i'r IOPC, gall gymryd nifer o wythnosau cyn i gŵyn gael ei hanfon ymlaen at Heddlu Dyfed Powys. Er mwyn delio â'ch cwyn cyn gynted â phosibl, rydym yn eich cynghori i gwyno i Heddlu Dyfed-Powys gan ddefnyddio un o'r dulliau a nodir yn y wybodaeth a nodir ar wefan yr heddlu yma.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae'r IOPC yn ei wneud ar eu gwefan What we do | Independent Office for Police Conduct (IOPC)

Gellir dod o hyd i wybodaeth ystadegol am berfformiad Heddlu Dyfed Powys yn yr adran ganlynol data perfformiad IOPC