Medrwch ddweud eich dweud a lleisio'ch barn trwy ein ymgynghoriadau ac arolygon rheolaidd.

Maen nhw’n cynnwys prosesau mae’n rhaid i ni ymgymryd â nhw megis eich holi ynghylch y cynnig blynyddol o ran faint ddylech chi dalu ar gyfer plismona trwy’r dreth gyngor. Cewch gynnig dewis o ddulliau ymateb ar gyfer rhain.

Bydd hefyd modd gweld ymgynghoriadau gan ein partneriaid a sefydliadau eraill ar y tudalen hon.

Arolwg Pobl Ifanc – Llywio Ein Gwasanaethau

Rwy’n ysgrifennu i ofyn am eich cymorth i annog pobl ifanc yn eich ward i gymryd rhan yn ein harolwg Pobl Ifanc – Llywio Ein Gwasanaethau.

Mae’r arolwg byr hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc rannu eu barn ar ein gwasanaethau a helpu i lywio sut y byddwn yn gweithio yn y dyfodol. Mae eu hadborth nhw yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau ni yn diwallu eu hanghenion a’u blaenoriaethau.

👉 Pobl Ifanc – Llywio Ein Gwasanaethau

Diolch am ein helpu i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.


Galwad Agored am Dystiolaeth

Galwad Agored am Dystiolaeth
Yn ogystal â’r arolwg, mae gennym Alwad Agored am Dystiolaeth hefyd sy’n gwahodd unrhyw un i rannu mewnwelediadau neu brofiadau am sut mae gwasanaethau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gweithio i bobl ifainc 18–25 oed. Mae’n rhan o waith ehangach CHTh i gasglu barn am yr hyn sy’n gweithio’n dda, beth ellid ei wella, a sut y gall gwasanaethau gefnogi pobl ifainc yn well i aros yn ddiogel ac allan o’r system cyfiawnder troseddol. Gellir cyflwyno tystiolaeth yn ysgrifenedig, yn ddienw neu drwy e-bost erbyn 24 Awst 2025.

📢 Rhagor o wybodaeth a sut i gyflwyno:
E-bost: opcc@dyfed-powys.police.uk
neu ysgrifennwch at:
Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys,
Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF

Diolch am ein helpu i sicrhau bod lleisiau pobl ifainc yn cael eu clywed a bod eu profiadau’n llunio newid gwirioneddol.