Alison Perry

Rwy’n arwain ar ddatblygiad a gweithrediad cynlluniau comisiynu sy’n cefnogi’r CHTh i gyflawni ei ymrwymiadau fel y nodir yn y Cynllun Heddlu a Throseddu. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r heddlu a phartneriaid eraill i ddarparu gwasanaethau i ddioddefwyr, diogelwch cymunedol a chyfiawnder lleol.

Beth sydd fwyaf pleserus i chi am eich rôl?

Gallu darparu gwasanaethau sy’n cefnogi’r rhai sy’n agored i niwed yn ein cymunedau ac sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Ers pryd ydych chi wedi bod yn y swydd?

Ers Ionawr 2014.

Beth wnaethoch chi cyn ymuno â Thîm y Comisiynydd?

Mae fy nghefndir mewn comisiynu a rheoli perfformiad ym meysydd diogelwch cymunedol a chamddefnyddio sylweddau.