Rhyddid Gwybodaeth
Rhyddid Gwybodaeth
Bydd Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod cymaint o wybodaeth â phosib ar gael ar y wefan hon. Fe welwch yn ein Cynllun cyhoeddi a'n Log Datgeliadau a’n yr holl wybodaeth sydd eisoes ar gael heb orfod cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth. Mae’r Log Datgeliadau hefyd yn rhoi manylion ynghylch pob cais a dderbyniwyd dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r ymatebion a ddarparwyd.
Os ydych yn dymuno gwneud cais am wybodaeth, rhaid gwneud y cais yn ysgrifenedig naill ai drwy lythyr, ffacs neu e-bost. Rhaid i’ch cais gynnwys eich enw a chyfeiriad ar gyfer anfon gohebiaeth atoch a rhaid iddo ddisgrifio’n glir pa wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani. Fel arall gallwch lenwi ffurflen ar lein.
Gallwch anfon eich cais drwy e-bost, neu drwy'r post at:
Gomisiynydd Heddlu a Throseddu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
E-bost: opcc@dyfed-powys.police.uk
Gwybodaeth yn ymwneud â Heddlu Gwent
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Heddlu Dyfed Powys yn ddau sefydliad ar wahân. Os oes angen gwybodaeth arnoch chi sy'n cael ei chadw gan Heddlu Dyfed Powys cyflwynwch eich cais i Gwneud cais am wybodaeth | Heddlu Dyfed-Powys
Os bydd Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn derbyn cais am wybodaeth sy’n cael ei chadw gan Heddlu Dyfed Powys, bydd yr ymgeisydd yn derbyn hysbysiad nad ydym yn cadw'r wybodaeth y mae wedi gofyn amdani ac yn awgrymu ei fod yn cysylltu â’r Llu er mwyn iddo ymateb i’r cais.
Sut yr ymdrinnir â'ch cais
Ar ôl derbyn eich cais byddwn yn ei asesu i weld a yw’r wybodaeth gennym ai peidio, ac os felly a fydd yn bosibl ei datgelu. Os bydd eithriadau statudol yn bodoli sy’n rhwystro datgelu’r wybodaeth byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr eithriadau perthnasol a'r rhesymau drostynt.
Byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i’ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith. Os nad yw’n glir beth yr ydych yn gwneud cais amdano, byddwn yn cysylltu â chi i gael eglurhad pellach ac ni fydd y cyfnod o 20 diwrnod yn cychwyn hyd nes y byddwn wedi cael digon o wybodaeth i’n galluogi i barhau. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein Gweithdrefn Rhyddid Gwybodaeth.
Beth i’w wneud os ydych yn anfodlon â’n hymateb
Os nad ydych yn fodlon a’n hymateb i’ch cais am wybodaeth bydd gennych hawl i ofyn am adolygiad mewnol a fydd yn cael ei gynnal gan rywun nad oedd yn gysylltiedig â’ch cais gwreiddiol. Byddwch yn cael gwybod beth oedd canlyniad yr ymchwiliad yn ysgrifenedig
Os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth