CHTh yn ymuno ag ymweliadau ymgysylltu cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin a Phowys
Ar 1 Gorffennaf, treuliodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh), y diwrnod yn cwrdd â phartneriaid a sefydliadau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin a Phowys fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol diweddaraf CHTh.
Dechreuodd y diwrnod yn Rhydaman, lle y mynychodd y Comisiynydd agoriad swyddogol Cwrt Cruyff yn Ysgol Dyffryn Aman. Bydd y cyfleuster chwaraeon cymunedol newydd yn darparu cyfleoedd i bobl ifainc a phreswylwyr lleol gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan helpu i hyrwyddo iechyd a lles o fewn y gymuned.
Yna, teithiodd y Comisiynydd i Aberhonddu i ymweld â Lloches Menywod Gwasanaeth Trais Domestig Calan, gan gwrdd â staff i glywed mwy am y cymorth hanfodol maen nhw’n rhoi i fenywod a theuluoedd sy’n profi cam-drin domestig. Rhoddodd yr ymweliad gyfle i ddysgu mwy am yr heriau sy’n wynebu goroeswyr a phwysigrwydd gwaith partneriaeth er mwyn sicrhau y gall pobl gael mynediad i’r cymorth pan maen nhw ei angen fwyaf.
Daeth y diwrnod i ben yn Aberhonddu, gyda chyfarfod o’r Panel Craffu Cymunedol, lle yr adolygodd gwirfoddolwyr annibynnol ryngweithiadau dienw rhwng yr heddlu ac aelodau o’r cyhoedd. Mae’r panel yn darparu goruchwyliaeth werthfawr, gan helpu i wella tryloywder ac atebolrwydd mewn plismona ledled ardal Dyfed-Powys.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
"Mae Diwrnodau Ymgysylltu Cymunedol yn rhoi cyfle gwerthfawr i gwrdd â phobl a sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws ein cymunedau. Mae pob ymweliad yn helpu i gryfhau’r perthnasau sydd mor bwysig ar gyfer gwella plismona a diogelwch cymunedol. Hoffwn ddiolch i bawb â’n croesawodd drwy gydol y dydd ac am y gwaith maen nhw’n parhau i wneud ledled ardal Dyfed-Powys."
Er mwyn cael gwybod mwy am ein Panel Craffu Cymunedol, galwch heibio i’n gwefan benodol: Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 02/07/2026