Panel Craffu Cymunedol – Gwirfoddolwyr yn Eisiau yn Ardal Llanelli
Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn lansio ei Banel Craffu Cymunedol nesaf yn Llanelli ac yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan.
Cynhelir y panel cyntaf yn Llanelli ar:
📅 9 Medi 2026
🕓16:00 – 19:00
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 24 Awst 2026
Bydd aelodau panel yn adolygu cyswllt yr heddlu â’r cyhoedd yn annibynnol mewn modd tryloyw a diduedd. Bydd gwirfoddolwyr yn craffu ar ansawdd rhyngweithiadau’r heddlu, y defnydd moesegol o bwerau’r heddlu, a’r gwasanaeth a gyflwynir i gymunedau.
Mae’r panel yn gweithredu fel llais cyhoeddus annibynnol, gan roi barn ac argymhellion i Heddlu Dyfed-Powys er mwyn helpu i gryfhau tryloywder, atebolrwydd a hyder y cyhoedd mewn plismona.
Dyma gyfle i:
- Cymryd rhan mewn gwaith craffu annibynnol ar yr heddlu
- Helpu i ddylanwadu ar welliannau i arferion yr heddlu
- Ennill profiad a sgiliau bywyd go iawn
- Cynrychioli barn y cyhoedd
Does dim angen profiad blaenorol. Darperir hyfforddiant ac arweiniad.
Darganfod mwy a chofrestru: https://forms.cloud.microsoft/e/yPK5x5iFyc?origin=lprLink
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 17/08/2026