CHTh Dafydd Llywelyn yn ymuno â thaith feicio i anrhydeddu swyddogion sydd wedi colli eu bywydau
Ddydd Mercher 6 Mai, ymunodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn â swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ar Daith Feicio’r Prif Gwnstabl Ifan Charles. Dechreuodd y daith feicio 75 milltir o hyd yn Abergwaun gan orffen ym Mhencadlys yr Heddlu yn Llangynnwr.
Ymgymerodd tîm o 35 o gynrychiolwyr Heddlu Dyfed-Powys, yn cynnwys swyddogion, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu SCHTh, a’r Prif Gwnstabl Ifan Charles, â’r her i feicio 75 milltir er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Care of Police Survivors (COPS). Ar hyn o bryd, COPS yw’r unig elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n ymroddedig yn llwyr i gefnogi teuluoedd swyddogion a staff yr heddlu sydd wedi marw ar ddyletswydd. Maent yn darparu cyfleoedd cymorth a mynediad at wasanaethau cwnsela i helpu aelodau’r teulu sy’n mynd trwy gyfnod anodd ar y naw.
Ar hyd y daith, stopiodd y grŵp ac ymunodd aelodau o deuluoedd a gollodd anwylyd yn ystod gwasanaeth yr heddlu â nhw. Roedd yr arosfannau hyn yn gyfle i fyfyrio wrth gofio.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn:
“Roedd yn fraint fawr ymuno â Thaith Feicio’r Prif Gwnstabl a chael y cyfle i godi arian ar gyfer elusen mor wych. Mae’r gwasanaethau a’r gefnogaeth y mae COPS y DU yn eu darparu i deuluoedd sydd wedi colli rhywun yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn ystod cyfnod anodd iawn. Mae’n bwysig ein bod ni, fel cymuned, yn cofio ac yn anrhydeddu’r rhai sydd wedi colli eu bywydau wrth wasanaethu.”
Gyda’r nod o godi £1000 ar gyfer COPS, cododd yr her feicio swm rhyfeddol o £2690! Da iawn i’r holl feicwyr a gymerodd ran!
Am ragor o wybodaeth am Care of Police Survivors (COPS), ewch i: https://ukcops.org/
I gyfrannu, ewch i: https://www.justgiving.com/page/dyfed-powys-police-cyclists-2026?utm_medium=FR&utm_source=CL
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 07/05/2026