Mae Pwyllgor Dethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dyfed-Powys wedi rhyddhau canfyddiadau eu hadolygiad o wasanaethau ymgysylltu, atal ac ymyrraeth trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer oedolion ifainc 18-25 oed.

Mae ymagwedd Pwyllgor Dethol yn galluogi casglu tystiolaeth i graffu ar faes ymarfer penodol, drwy ymgysylltu, ymchwilio, a gwahodd rhanddeiliaid allweddol i Wrandawiadau Pwyllgor Dethol i roi tystiolaeth.

Casglodd y Pwyllgor Dethol dystiolaeth drwy ymgysylltu â phobl ifainc, cynnal galwad agored am dystiolaeth, ymgymryd â gweithgareddau craffu mewnol, a thrwy bresenoldeb cynrychiolwyr allweddol o’r heddlu ac awdurdodau lleol yn y Gwrandawiad. O ganlyniad i’r gweithgarwch hwn, mae’r Pwyllgor Dethol wedi nodi 13 argymhelliad sy’n gysylltiedig â meysydd i’w gwella. Mae’r rhain wedi’u rhannu â’r partneriaid perthnasol, ac yn cynnwys:

  1. Sicrhau ffocws ar sgiliau cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasau iach mewn gwasanaethau ar gyfer oedolion ifainc;
  2. Heddlu Dyfed-Powys i ystyried ymgymryd â dadansoddiad strwythuredig (Proffil Strategol) o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyflawnwyd gan oedolion ifainc 18-25 oed, er mwyn sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o’r gwasanaethau ymgysylltu, atal ac ymyrryd sydd eu hangen ar gyfer y grŵp oed hwn;
  3. Partneriaid i hyrwyddo eu gwasanaethau ymgysylltu, atal ac ymyrryd ar gyfer oedolion ifainc 18-25 oed yn weithredol, er mwyn sicrhau bod yr holl randdeiliaid allweddol yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael;
  4. Rhannu dysgu o werthusiadau perthnasol rhwng ardaloedd awdurdod lleol; a
  5. Dangos effaith gweithgarwch atal yr heddlu i oedolion ifainc.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Mae fy Mhwyllgor Dethol wedi llwyddo i dynnu sylw at faes pwysig drwy ein gwaith a chyflwyno argymhellion i bartneriaid a fydd, gobeithio, yn effeithiol.  

Rydyn ni wedi gwrando ar leisiau oedolion ifainc drwy gydol y broses hon, sydd wedi bod yn allweddol o ran datblygu’r argymhellion o gwmpas gwasanaethau a allai effeithio arnyn nhw a’u cyfoedion yn uniongyrchol.

Roedd un o’m Llysgenhadon Ieuenctid yn bresennol yn y Pwyllgor Dethol, ac roedd ei fewnbwn ef, ynghyd â mewnbwn yr holl aelodau eraill, yn amhrisiadwy. Diolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r adolygiad hwn.”

Darllenwch yr adroddiad llawn fan hyn: Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Article Date: 09/06/2026