Pwyllgor Dethol
Sefydlwyd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (CHTh) gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Mae ganddynt ddyletswydd statudol a mandad etholiadol i ddwyn yr heddlu i gyfrif ar ran y cyhoedd.
Ochr yn ochr â’r Bwrdd Plismona a’r Bwrdd Perfformiad Strategol, cynhelir ymchwiliadau’r Pwyllgor Dethol ar bynciau penodol, yn unol â’r blaenoriaethau a amlinellir yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer 2025-2029, ac a nodwyd fel y prif feysydd i graffu arnynt a’u datblygu. Bydd yr ymchwiliadau hyn yn newid y dull adolygu craffu dwys a fabwysiadwyd yn flaenorol gan fy swyddfa.
Bydd ymchwiliadau’r Pwyllgor Dethol yn fy ngalluogi i ddwyn Prif Gwnstabl (PG) Heddlu Dyfed-Powys (HDP) i gyfrif yn gyhoeddus, trwy graffu ar dystiolaeth a gwybodaeth a ddarperir gan randdeiliaid allweddol mewn gwrandawiadau’r Pwyllgor Dethol a thrwy ymgysylltu ac ymgynghori. Bydd y dull hwn yn dod â phartneriaid allweddol sy’n medru dylanwadu ar gyflenwi yn y dyfodol at ei gilydd a’u galluogi i helpu i lunio gwelliannau yn y dyfodol yn y maes sydd dan sylw.
Mae ymchwiliadau’r Pwyllgor Dethol yn fy nghaniatáu i arfer fy rôl mewn modd tryloyw, drwy wneud y canlynol:
- Sicrhau gwaith craffu cadarn a dwyn y PG i gyfrif;
- Sicrhau bod llais dioddefwyr a goroeswyr yn cael ei glywed;
- Cynnwys y cyhoedd mewn atebolrwydd lleol;
- Gweithio gyda phartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol i sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol ehangach yn effeithlon ac yn effeithiol;
- Cyhoeddi gwybodaeth i alluogi’r cyhoedd i asesu perfformiad HDP a phartneriaid.
Ymchwiliadau’r Pwyllgor Dethol
Plant a Phobl Ifainc
Mae’r Pwyllgor Dethol hwn yn ystyried y llwybrau ymholi canlynol:
- Beth yw effaith gwasanaethau ymyrryd, atal ac ymgysylltu Heddlu Dyfed-Powys a’i bartneriaid o ran trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer pobl ifainc 18-25 oed?
- Pa welliannau, os o gwbl, sydd angen i ddarpariaeth gwasanaethau ymyrryd, atal ac ymgysylltu o ran trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer pobl ifainc 18-25 oed?
Cylch Gorchwyl