Samplu Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau
Mewn cydweithrediad â’r heddlu, cynhaliodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) ymarfer hap samplu wedi’i strwythuro i asesu cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr a rhoi sicrwydd mewn perthynas â chyflenwi hawliau dioddefwyr. Mae hap samplu’n darparu dull ymarferol o adolygu achosion unigol i gael ciplun o berfformiad, nodi meysydd o arfer da, a thynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer gwella. Mae’r canfyddiadau’n galluogi cymryd camau gweithredu targedig lle mae angen, gan gefnogi gwella parhaus o ran y gwasanaeth a ddarperir i ddioddefwyr.
Archwiliodd yr adolygiad hwn gyfanswm o 21 achos ar draws tri chyfarfod craffu, gydag achosion wedi’u dewis ar hap o ymchwiliadau’n ymwneud â throseddau Byrgleriaeth a Throseddau Casineb. Ffocws thematig yr ymarfer hwn oedd cwblhad a safon Asesiadau o Anghenion Dioddefwyr, sy’n chwarae rhan hollbwysig o ran adnabod anghenion unigol dioddefwyr, pennu cymorth priodol, a sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn yr hawliau a roddir iddynt o dan y Cod Dioddefwyr.
Diben yr adroddiad hwn yw cyflwyno’r canfyddiadau o’r adolygiad, nodi unrhyw themâu sy’n dod i’r amlwg neu feysydd sy’n destun pryder, a darparu arsylwadau a allai gynorthwyo Heddlu Dyfed-Powys i gryfhau cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr ymhellach a gwella canlyniadau ar gyfer dioddefwyr.