Mae saith prosiect yn ardal Dyfed-Powys wedi’u cydnabod am eu cyfraniadau neilltuol i ddiogelwch cymunedol yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2026.

Derbyniodd y prosiectau, a gafodd eu henwebu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, bum gwobr a dwy gydnabyddiaeth canmoliaeth uchel yn y gwobrau heddiw (26 Tachwedd 2026).

Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu’r timoedd a sefydliadau unigol sy’n gweithio i wneud cymunedau ledled Cymru’n fwy diogel, gan gydnabod arfer da ar draws amrywiaeth o fentrau diogelwch cymunedol.

Y prosiectau llwyddiannus oedd:

  • Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin (Dr Mz’s) – Cyd-enillydd Menter Ymyrraeth Gynnar Ieuenctid Orau.
  • Cwrt Cruyff (Ysgol Dyffryn Aman) – Cyd-enillydd y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig.
  • Ffocws y Dyfodol (Ymddiriedolaeth Pobl Ifainc POINT) – Enillydd y fenter Atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol orau.
  • Llwyddo (Prosiect Newid y Gêm) – Enillydd y Wobr Tîm Sefydliad Unigol Gorau.
  • Rhaglenni cyffuriau Gwarediad Tu Allan i’r Llys (Heddlu Dyfed-Powys) – Enillydd y Wobr Atal Aildroseddu/Gweithio Gyda Throseddwyr.

Derbyniodd dau brosiect arall gydnabyddiaeth canmoliaeth uchel:

  • Prosiect Cymorth Cynnar (Gwasanaethau Cam-drin Domestig Caerfyrddin) – Menter Ymyrraeth Gynnar Ieuenctid Orau
  • Yo Bro (Ein Llais Ein Taith)

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Mae’n dda iawn gennyf weld cymaint o brosiectau o bob cwr o ardal Dyfed-Powys yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel eleni.

“Mae’r gwobrau hyn yn tynnu sylw at y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yn ein cymunedau, o gefnogi pobl ifainc ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol i leihau troseddu.

“Ry’n ni’n ffodus o gael cymaint o sefydliadau ac unigolion ymroddedig yn gweithio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Rwy’n falch bod fy swyddfa wedi enwebu’r prosiectau hyn ar gyfer cydnabyddiaeth genedlaethol, a hoffwn longyfarch pawb dan sylw.” 

Mae llwyddiant gwobrau eleni’n adlewyrchu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, atal ac ymyrraeth gynnar o ran creu cymunedau mwy diogel ledled ardal Dyfed-Powys.

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 01/01/0001