CHTh Dafydd Llywelyn yn cynnal Diwrnod Ymgysylltu Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin
Ar ddydd Mercher 12 Tachwedd, treuliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) Dafydd Llywelyn y diwrnod yn ymweld ag ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer ei Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol diweddaraf. Roedd y Diwrnod Ymgysylltu Cymunedol yn canolbwyntio ar ddiogelwch y ffyrdd, gydag Wythnos Diogelwch y Ffyrdd ar ddod.
Cynhelir Wythnos Diogelwch y Ffyrdd 2025 o 16 – 22 Tachwedd, gyda’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch y ffyrdd ac effaith bosibl marwolaethau a damweiniau ar y ffyrdd ar deulu, ffrindiau a chymunedau lleol.
Dechreuodd y diwrnod gydag ymweliad â GanBwyll yn Cross Hands, lle y cyfarfu CHTh Dafydd Llywelyn ag aelodau staff i drafod diogelwch y ffyrdd yn ardal blismona Dyfed-Powys. Llwyfan gan Heddlu Dyfed-Powys a GanBwyll yw Ymgyrch Snap lle gall aelodau o’r cyhoedd gyflwyno tystiolaeth fideo o droseddau gyrru yn yr ardal. Nod y llwyfan diogel ar-lein yw gwella diogelwch y ffyrdd drwy erlyn gyrwyr sy’n cyflawni troseddau. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i adrodd, cliciwch yma.
Yn ystod y prynhawn, teithiodd CHTh Llywelyn i Heol Goch yng nghanol tref Caerfyrddin i ymuno â Thimoedd Plismona Bro ac Atal lleol, a gynhaliodd sesiwn cyfnewid gwybodaeth ar y stryd. Gydag e-feiciau ac e-sgwteri yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn yr ardal Heddlu, trafodwyd e-feiciau ac e-sgwteri. Cynghorir y cyhoedd i beidio â’u prynu fel anrhegion wrth i’r Nadolig agosáu, gan eu bod nhw’n anghyfreithlon ac yn gallu bod yn beryglus i chi ac eraill.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:
“Braf oedd cael ymuno â GanBwyll a Thimoedd Plismona Bro ac Atal heddiw i weld â’m llygaid fy hun sut maen nhw’n gwneud ffyrdd yn fwy diogel. Mae Wythnos Diogelwch y Ffyrdd yn gyfle pwysig i atgoffa’r rhai sy’n cerdded, yn beicio neu’n gyrru bod diogelwch ar ein ffyrdd yn gyfrifoldeb i bawb. Tynnodd fy ymweliad â GanBwyll a sesiwn cyfnewid gwybodaeth ar y stryd y Tîm Plismona Bro ac Atal sylw at effeithiau posibl anaf neu farwolaeth ar y ffordd ar yr unigolyn a chymunedau cyfan yn ardal Dyfed-Powys. Diolch i bawb y siaradais â nhw heddiw, a phawb a oedd yn bresennol yn y sesiwn cyfnewid gwybodaeth yng Nghaerfyrddin.”
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 13/11/2025