Wythnos Plismona Bro: Dathlu Timau Plismona Bro Dyfed Powys

Mae dydd Llun 23 Mehefin yn cychwyn Wythnos Plismona Bro. Wrth i’w wythnos hon gael ei dathlu ar draws y DU, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn, yn awyddus i ganmol a thynnu sylw at y gwaith hanfodol y mae’r Timau Plismona Bro’n ei wneud o fewn ein cymunedau ar draws yr ardal blismona.
Mae Timau Plismona Bro wedi eu ffurfio o Swyddogion Heddlu a Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCH), sydd wedi neilltuo i blismona ardaloedd penodol o fewn y gymuned. Mae gan y swyddogion hyn ddealltwriaeth werthfawr o’u hardal ac mae ganddynt gysylltiadau pwysig gyda’r cyhoedd, cynghorwyr lleol, gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, ac maent yn gweithio i adnabod a deall materion sy’n effeithio ar ddiogelwch cymunedol. Mae’r cysylltiadau pwysig hyn yn caniatáu i’r cyhoedd gael pwyntiau cyswllt cyson gyda swyddogion sy’n deall y materion y mae’r gymuned leol yn eu hwynebu.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:
“Mae’r wythnos hon yn dathlu Timau Plismona Bro, a hoffwn estyn diolch arbennig i’r swyddogion hynny yn ardal blismona Dyfed Powys. Rydw i’n gwerthfawrogi ac yn cydnabod eich gwaith caled parhaus a’ch ymroddiad i greu cymunedau diogelach. Rwyf yn falch o’r ymroddiad a ddangosir gan swyddogion a SCCH ar draws ardal Dyfed Powys.”
Mae Timau Plismona Bro’n helpu plismona i fod yn fwy hygyrch, agos-atoch ac yn ennill ymddiriedaeth rhwng cymunedau lleol a swyddogion.
“Dylai cymunedau fod yn ddiogel i bawb, ac mae Timau Plismona Bro’n gyfranwyr pwysig wrth wneud cymunedau Dyfed Powys yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb,” meddai Dafydd Llywelyn, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. “Mae’r wythnos hon ar gyfer dweud diolch.”
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 23/06/2025