Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys (CHTh), Dafydd Llywelyn, heddiw wedi ailddatgan ei ymrwymiad i barhau â rhaglen ysgolion bwrpasol yn Nyfed Powys, er gwaethaf penderfyniad Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni i dynnu cyllid yn ôl o’r raglen. 

Achosodd penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri’r cyllid bryder sylweddol i ysgolion, rhieni a’r gymuned ehangach ledled Cymru pan gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr eleni. Mae'r rhaglen, sydd wedi darparu Swyddogion Heddlu Ysgolion penodedig ers tro, yn darparu cymorth addysgol a lles hanfodol i fyfyrwyr 5-16 oed trwy gwricwlwm dwyieithog. Mae'n sicrhau nid yn unig diogelwch disgyblion a myfyrwyr ond hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at eu datblygiad a'u gofal bugeiliol. 

Mynegodd CHTh Llywelyn siom enbyd ynghylch y penderfyniad, gan amlygu ar y pryd y cafodd y penderfyniad ei wneud heb ymgynghoriad ffurfiol gyda heddluoedd ledled Cymru. Fodd bynnag, mewn ymateb i hyn, cymerodd CHTh Llywelyn gamau cyflym i sicrhau parhad y Rhaglen Ysgolion yn rhanbarth Dyfed-Powys tan ddiwedd blwyddyn addysgol 2023-24. 

Yn dilyn ei ail-ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys ym mis Mai eleni, mae Mr Llywelyn wedi cadarnhau heddiw ei fod wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid ar lefel leol, a ledled Cymru i ddatblygu cynllun hirdymor i sicrhau dyfodol y rhaglen yn Nyfed-Powys a thu hwnt. 

Heddiw, dydd Mercher, 18 Medi, fe ymwelodd ag Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin i weld sut roedd y Gwasanaeth Ysgolion sydd newydd ei lansio yn cael ei weithredu mewn Ysgolion. Dywedodd Mr Llywelyn, “Mae diogelwch a lles ein plant yn hollbwysig, ac mae rôl Swyddogion Heddlu Ysgolion wedi bod yn hanfodol wrth greu amgylcheddau diogel a chefnogol yn ein hysgolion."

“Roedd unrhyw ostyngiad yn y gefnogaeth i’r gwasanaeth hwn yn peryglu datblygiad a diogelwch ein pobl ifanc. Dyna pam y gwnes hi’n flaenoriaeth i sicrhau bod y Gwasanaeth Ysgolion yn parhau yn ein hardal. 

“Dyma oedd un o’m prif ymrwymiadau yn ystod fy ymgyrch etholiadol, ac rwy’n cadw at fy addewid i gefnogi ein hysgolion a’n pobl ifanc."

“Mae cynnal y Gwasanaeth Ysgolion yn hanfodol nid yn unig ar gyfer y diogelwch a’r gefnogaeth uniongyrchol y mae’n eu cynnig ond hefyd ar gyfer llwyddiant a lles ein myfyrwyr yn y dyfodol. Byddaf yn parhau i frwydro dros ei dyfodol ac i amddiffyn buddiannau gorau ein plant.” 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 18/09/2024