Ceir manylion am gefndir a diben y gwaith craffu hap samplu, ynghyd â’r ffordd y cynhelir yr hap samplu, o fewn y Fframwaith ar gyfer Craffu ar Gwynion.

Gwnaeth Deddf Plismona a Throsedd 2017 a rheoliadau ategol newidiadau sylweddol i systemau cwyno a disgyblu’r heddlu. Cyflwynasant nifer o newidiadau a luniwyd i gyflawni system gwynion sy’n canolbwyntio’n fwy ar y cwsmer ym mis Chwefror 2020.
Ehangwyd y system gwynion er mwyn cwmpasu amrediad ehangach o faterion. O’r blaen, roedd y ffordd yr oedd y term ‘cwyn’ yn cael ei ddiffinio’n golygu bod angen iddo ymwneud ag ymddygiad swyddog unigol. Nawr, gellir gwneud cwyn am amrediad llawer ehangach o faterion, gan gynnwys y gwasanaeth a ddarparwyd gan yr heddlu fel sefydliad. Lluniwyd hyn ar gyfer cynyddu mynediad i system gwyno’r heddlu. Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu’n disgwyl i heddluoedd ystyried y wybodaeth maen nhw’n cadw am gwynion â bwriad y diwygiadau mewn cof - rhwymedigaeth gadarnhaol i gynyddu mynediad a chasglu gwybodaeth sy’n galluogi heddluoedd a chyrff plismona lleol i ddysgu o gwynion a materion eraill. 

Adroddiadau