Bob chwarter mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn cyhoeddi data perfformiad ar gyfer pob llu sy'n nodi sut maent yn trin cwynion ac yn eu datrys. Data'r heddlu | Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC)


Yn ogystal, bydd yr IOPC yn cyhoeddi adroddiad ystadegau cwynion blynyddol sy'n caniatáu i'r IOPC nodi arfer da, tueddiadau a gwahaniaethau y mae angen edrych arnynt. Ystadegau cwynion yr heddlu | Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC)

Yn unol â'r Gorchymyn Gwybodaeth Penodedig, bydd SCHTh yn cyhoeddi adroddiad blynyddol i ddangos sut mae'r Comisiynydd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif mewn perthynas â pherfformiad cwynion. Yn ogystal, bydd y CHTh yn darparu asesiad o'u perfformiad eu hunain wrth gyflawni swyddogaethau trin cwynion eraill.

Mae data ar gyfer cwynion a wneir yn erbyn Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gael ar wefan Panel yr Heddlu a Throseddu Dyfed Powys Police and Crime Panel