Yn 2022, nododd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a Chymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu bod craffu annibynnol cyfyngedig o anghymesuredd a dalfeydd mewn heddluoedd ledled Cymru a Lloegr. Yn dilyn sawl digwyddiad proffil uchel yn y blynyddoedd diwethaf, mae hyder y cyhoedd o ran y ffordd y mae’r heddlu’n trin y cyhoedd wedi gostwng. Mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a Chymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi awgrymu y byddai Panel Craffu ar Gadw yn y Ddalfa’n gwella tryloywder, yn
cynyddu hyder y cyhoedd, ac yn nodi arferion da a drwg.


Diben cyffredinol y Panel Craffu Annibynnol ar Ddalfeydd yw sicrhau bod gweithredu
gweithdrefnau’r heddlu ar gyfer cadw yn y ddalfa yn gymesur, cyfreithiol a gofynnol yn Heddlu Dyfed-Powys. 

Sefydlwyd y panel yn mis Mawrth 2024 i graffu’n annibynnol ar ddalfeydd er mwyn sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu gweithdrefnau’r heddlu ar gyfer cadw yn y ddalfa’n gymesur, cyfreithlon a phriodol.

 

Cylch Gorchwyl: Panel Craffu Annibynnol ar Ddalfeydd

 

Adroddiadau