Yn ddiweddar, aeth staff o Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i ddau ddigwyddiad gyrfaoedd mewn prifysgolion i hyrwyddo ein cyfleoedd gwirfoddoli buddiol ymysg myfyrwyr. 

Ar 24 Medi, cymerodd ein tîm ran yn nigwyddiad gyrfaoedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, lle yr arddangosom y rôl bwysig mae gwirfoddolwyr yn chwarae o ran cefnogi plismona a diogelwch cymunedol ledled y rhanbarth. Roedd y myfyrwyr yn awyddus i ddysgu mwy am gynlluniau, megis ein Hymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, Llysgenhadon Ieuenctid ac Ymwelwyr Lles Anifeiliaid.

Dilynwyd hyn gydag ymweliad â Phrifysgol Aberystwyth ar 15 Hydref, lle y gwnaethom gwrdd â myfyrwyr brwdfrydig eto sy’n ceisio ennill profiad, cefnogi eu cymunedau a datblygu sgiliau gwerthfawr drwy wirfoddoli.

Mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hollbwysig o ran hyrwyddo tryloywder, atebolrwydd ac ymgysylltu cyhoeddus mewn plismona, ac mae digwyddiadau fel rhain yn ein helpu i gysylltu ag arweinwyr y dyfodol sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ardal Dyfed-Powys.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Mae’n braf gweld myfyrwyr yn cymryd diddordeb mewn gwirfoddoli a dysgu mwy am sut y gallant gefnogi plismona a diogelwch cymunedol ledled ardal Dyfed-Powys.”

Gall myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn un o’n cyfleoedd gwirfoddoli gael gwybod mwy a gwneud cais drwy ein gwefan: Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Mae archebu’n gyflym a hawdd, ac mae croeso i bawb.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 16/10/2025