Wythnos Gwirfoddolwyr 2026: Dathlu Pŵer Gwirfoddoli Mewn Plismona
Wrth i Wythnos Gwirfoddolwyr 2026 gael ei dathlu ledled y DU, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh), Dafydd Llywelyn, yn tynnu sylw at gyfraniad amhrisiadwy gwirfoddolwyr sy’n helpu i lunio a chefnogi plismona ar draws ardal Dyfed-Powys.
Mae’r ymgyrch flynyddol, sy’n cael ei chynnal o 1 – 7 Mehefin, yn cydnabod yr ymrwymiad, tosturi a sgiliau a gyflwynir gan wirfoddolwyr i ystod eang o achosion, o hawliau carcharorion i ddiogelwch a lles anifeiliaid. Mae gwirfoddolwyr SCHTh yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau bod plismona’n agored, yn dryloyw ac yn ymatebol i anghenion cymunedau lleol.
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) yn falch o gydlynu naw cynllun gwirfoddoli, gan gynnig cyfleoedd ystyrlon i breswylwyr Dyfed-Powys wneud gwahaniaeth.
Eleni, tynnir sylw at ein cynlluniau gwirfoddoli mewn gweminar am ddim a gynhelir gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Mae’r weminar yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael gwybod mwy am bob cynllun, cwrdd â’r swyddogion cyswllt gwirfoddolwyr, a holi cwestiynau am y cyfleoedd sy’n cyd-fynd â’u diddordebau a’u sgiliau orau.
- Dydd Mawrth 2 Mehefin
- 1pm – 2pm
- Ar-lein drwy TEAMS
Archebwch eich tocynnau ar gyfer y weminar, sy’n rhad ac am ddim, fan hyn: Volunteer Hour: Volunteering with the Dyfed-Powys OPCC Tickets, Tuesday 2 June • 1 PM - 2 PM GMT+1 | Eventbrite
Dywed Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn atgoffa’n bwerus bod pob un gwirfoddolwr yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blismona yn ardal Dyfed-Powys. Mae pob gwirfoddolwr yn cyfrannu at dryloywder a safonau uchel mewn plismona, ac yn adeiladu pontydd rhwng y cyhoedd a’r heddlu. Rwy’n diolch i bob gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i wirfoddoli ar ran fy swyddfa ac am eu cyfraniadau pwysig.”
Os hoffech ddysgu mwy am wirfoddoli gyda SCHTh, galwch heibio i : https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/atebolrwydd-a-chraffu/cynlluniau-gwirfoddoli/
Article Date: 01/06/2026