Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn rhedeg rhwng 30 Mehefin a 6 Gorffennaf 2025, gan nodi ymdrech genedlaethol i daflu goleuni ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynorthwyo’r rhai yr effeithir arnynt ganddo. Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys unwaith eto yn cefnogi’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol, a thynnu sylw at sut y gall preswylwyr geisio cymorth.

Mae mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Comisiynydd, Dafydd Llywelyn, sy’n parhau i fod yn bartner â’r heddlu, awdurdodau lleol, darparwyr tai a chymunedau ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys i ymateb i bryderon.

Yn unol â’i ymrwymiad i fod yn agored ac yn atebol, mae’r Comisiynydd hefyd yn tynnu sylw at gyhoeddi’r ystadegau Adolygu Achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol diweddaraf, sy’n rhoi cipolwg manwl ar faint o achosion sydd wedi’u hadolygu o dan y broses ffurfiol a elwid gynt yn sbardun cymunedol, a’r canlyniadau sy’n deillio ohonynt. 

Dywedodd y Comisiynydd Llywelyn:
“Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith barhaol a niweidiol ar bobl a’r gymuned ehangach. Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, rwyf am i breswylwyr deimlo’n hyderus i fynegi barn, gan wybod bod eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif, bod camau’n cael eu cymryd lle bo’n briodol, a bod eu llais yn bwysig. Mae’r broses Adolygu Achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn darparu dull diogelwch pwysig, gan ganiatáu i bobl ofyn am adolygiad os ydyn nhw’n teimlo nad oes digon wedi’i wneud. Rwy’n annog unrhyw un sy’n wynebu ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus i ymweld â’n gwefan a gweld y cymorth sydd ar gael.”

Mae’r ymgyrch hon yn cefnogi amcanion Cynllun Heddlu a Throseddu’r Comisiynydd, sy’n rhoi pwyslais cryf ar gadw cymunedau’n ddiogel trwy ymyrryd yn gynnar, cynnal gwaith ataliol, a sicrhau bod dioddefwyr yn cael cymorth.

Am fanylion llawn ar y broses Adolygu Achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ac i archwilio’r ystadegau diweddaraf, ewch i’n gwefan.
👉 Ystadegau Adolygu Achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 30/06/2025