Rhwydwaith Ymgysylltu â Dioddefwyr-Goroeswyr: Enw Newydd, yr un Gwasanaeth

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh) Dyfed-Powys wedi ailenwi ei Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr yn swyddogol i’r Rhwydwaith Ymgysylltu â Dioddefwyr-Goroeswyr, sy’n adlewyrchu ymagwedd ehangach a mwy cynhwysol tuag at weithio gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan drosedd.
Daw’r rhwydwaith â dioddefwyr a goroeswyr ledled ardal Dyfed-Powys at ei gilydd i rannu eu profiadau a helpu i ddylanwadu ar gynllunio a chyflenwi gwasanaethau cymorth lleol. Drwy wrando ar brofiadau go iawn, mae SCHTh yn anelu i gryfhau cymorth ar gyfer dioddefwyr a gwella eu taith drwy’r system cyfiawnder troseddol.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Mae’n hollbwysig bod dioddefwyr a goroeswyr yn teimlo eu bod nhw’n cael eu clywed. Mae’r enw newydd hwn yn adlewyrchu eu cyfraniad pwysig tuag at lunio’r ffordd yr ydym yn comisiynu a chyflenwi gwasanaethau dioddefwyr yn ardal Dyfed-Powys yn well. Mae eu lleisiau’n ein helpu i herio systemau, gwella arferion, a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu hysbysu gan drawma ac yn wirioneddol ymatebol i angen.”
Mae aelodau o’r Rhwydwaith Ymgysylltu â Dioddefwyr-Goroeswyr yn cyfrannu drwy arolygon a chyfweliadau, a thrwy ymgynghori’n uniongyrchol â staff SCHTh. Mae eu hadborth yn chwarae rôl allweddol o ran y ffordd mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a sut mae perfformiad yn cael ei fonitro.
Mae SCHTh wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau dioddefwyr a goroeswyr yn ganolog i’w gwaith ac yn parhau i groesawu aelodau newydd i’r rhwydwaith. Anogir unigolion o bob cefndir i gymryd rhan.
👉 Rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith a sut i ymuno:
https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/atebolrwydd-a-chraffu/cynlluniau-gwirfoddoli/rhwydwaith-ymgysylltu-a-dioddefwyr-goroeswyr-dyfed-powys/
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 05/09/2025