Cymhorthfa Gymunedol Hwlffordd: Rhannwch Eich Barn gyda Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) Llywelyn a’i swyddfa’n dathlu llwyddiant sylweddol yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2025, gyda mentrau a ariennir gan y CHTh, sefydliadau a gefnogir gan y CHTh, a Llysgennad Ieuenctid SCHTh i gyd yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad neilltuol i ddiogelwch cymunedol, diogelu ac ymyrraeth gynnar.
Enillodd CHTh a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh) Dyfed-Powys ddau gategori cenedlaethol ac fe wnaethant dderbyn ganmoliaeth uchel mewn categori arall. Roedd Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn llwyddiannus yn y gwobrau.
Enillwyr Categori
- Ymyrraeth Gynnar – Enillydd Gwobr: Bradley Cole, Llysgennad Ieuenctid
Derbyniodd Bradley, un o Lysgenhadon Ieuenctid SCHTh, y Wobr Ymyrraeth Gynnar genedlaethol am ei waith neilltuol o ran hyrwyddo lleisiau pobl ifainc a chyfrannu at gymunedau mwy diogel ledled ardal Dyfed-Powys. - Mynd i’r Afael ag Iechyd Meddwl Gyda’n Gilydd - Enillydd: Gyda’n Gilydd Fe Allwn Ni
Enillodd Gyda’n Gilydd Fe Allwn Ni, sy’n cael ei ariannu a’i gefnogi gan SCHTh, ei gategori ar gyfer ei ymagwedd bartneriaeth arloesol tuag at ymwybyddiaeth iechyd meddwl, lles ac ymyrraeth gynnar ledled ardal Dyfed-Powys. - Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Enillydd: Gwasanaeth Eiriolaeth Stelcio Cenedlaethol Paladin
Mae Paladin yn cael ei gomisiynu a’i gefnogi drwy gyllid CHTh. Derbyniodd Wobr Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol am ei waith yn cefnogi pobl ifainc sydd mewn perygl o ddioddef camfanteisio a thrais difrifol.
Canmoliaeth Uchel
- Cymorth Creadigol a Chymunedol – Canmoliaeth Uchel: Celf Aeron (Ceredigion)
Derbyniodd ymgysylltiad Celf Aeron, sy’n derbyn cyllid gan SCHTh i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr drwy gelf therapiwtig, ganmoliaeth uchel yng ngwobrau eleni.
Sylw Arbennig: Llwyddiannau Dyfed-Powys
Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys hefyd fwynhau llwyddiant ar y noson:
- Ymgyrch Scotney – Enillydd, am ddiogelu pobl hŷn a phobl sy’n agored i niwed rhag twyll.
- SCCH Anna Bowen - Enillydd, yn y categori Mynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Mae’r ddau’n arddangos y gwaith partneriaeth cryf rhwng SCHTh a’r heddlu o ran cyflwyno cymunedau mwy diogel.
Dywedodd CHTh Llywelyn
“Rwy’n eithriadol o falch bod gwaith sy’n cael ei ariannu a’i gefnogi gan SCHTh wedi’i gydnabod ar lefel genedlaethol yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel eleni. Mae Bradley, Paladin, Celf Aeron a Phartneriaeth Gyda’n Gilydd Fe Allwn Ni yn chwarae rhan bwysig mewn cefnogi ymyrraeth gynnar, lles a diogelwch cymunedol ledled ardal Dyfed-Powys.
“Rwyf hefyd eisiau llongyfarch Ymgyrch Scotney a SCCH Anna Bowen ar eu llwyddiannau haeddiannol. Mae hyd a lled eu cydnabyddiaeth yn adlewyrchu cryfder ein hymagwedd bartneriaeth a’n hymrwymiad ar y cyd i ddiogelu a chefnogi pobl sy’n agored i niwed.
Llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu cydnabod eleni. Diolch yn fawr.”
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 01/12/2025