Paladin Logo

Mae prosiect peilot newydd arloesol wedi’i anelu at wella cymorth ar gyfer dioddefwyr stelcio perygl uwch yn ardal Dyfed-Powys wedi’i lansio’n swyddogol heddiw.

Cyflwynir y fenter, a ariennir gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Eiriolaeth Stelcio Cenedlaethol Paladin, sef sefydliad arweiniol yn y maes cymorth ac eiriolaeth stelcio. Mae’r prosiect yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen o ran mynd i’r afael ag anghenion dioddefwyr stelcio yn y rhanbarth. 

Gwasanaeth a hysbysir gan drawma yw Paladin, a sefydlwyd yn 2013. Y mae wedi ymrwymo i gefnogi dioddefwyr stelcio perygl uwch yng Nghymru a Lloegr. Mae eu tîm o Weithwyr Achos Eiriolaeth Stelcio Annibynnol achrededig yn cynnig cyngor arbenigol, eiriolaeth a chymorth, gan sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu diogelu a bod eu lleisiau’n cael eu clywed drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol, sydd yn aml yn gymhleth a heriol.

Yn ôl ystadegau diweddar, mae tua 1.8 miliwn o bobl yn profi stelcio yn y DU bob blwyddyn, gydag un mewn pump menyw ac un mewn deg dyn yn cael eu heffeithio. Gall stelcio gael effaith aruthrol ar fywydau dioddefwyr, gan ennyn ofn a phryder sy’n aflonyddu ar eu bywydau bob dydd ac yn cyfaddawdu eu synnwyr o ddiogelwch.

Bydd y prosiect peilot yn Nyfed-Powys yn canolbwyntio ar sawl maes allweddol:

1.  Cymorth Uniongyrchol: Penodir Gweithiwr Achos Eiriolaeth Stelcio Annibynnol llawn amser i roi cymorth ac eiriolaeth arbenigol i ddioddefwyr stelcio perygl uwch. Bydd y gwasanaeth yn cynnig cyngor untro i achosion perygl is, gan sicrhau bod cymorth cynhwysfawr ar gael i bob dioddefydd, ni waeth beth yw ei amgylchiadau.

2.  Hyfforddi ac Adeiladu Capasiti: Bydd Paladin yn cyflwyno hyfforddiant arbenigol i weithwyr proffesiynol ar draws asiantaethau lluosog yn y rhanbarth, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys. Mae’r hyfforddiant hwn yn anelu i wella dealltwriaeth leol o stelcio, gan sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn cymorth priodol ac amserol gan bob sector sy’n gysylltiedig â’u gofal.

3.  Codi Ymwybyddiaeth: Bydd y prosiect hefyd yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth o beryglon stelcio ar draws y gymuned, gan helpu i nodi a chefnogi dioddefwyr a all gael eu hanwybyddu fel arall.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn, “Mae’r prosiect peilot hwn gyda Paladin yn cynrychioli cam hollbwysig yn ein hymdrechion i ddiogelu aelodau mwyaf bregus ein cymuned. Drwy ddod ag arbenigedd Paladin i Ddyfed-Powys, yr ydym yn sicrhau bod dioddefwyr stelcio perygl uwch yn derbyn y cymorth sydd angen arnynt i fyw’n ddiogel a heb ofn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Paladin, “Mae’n dda gennym gydweithio â Heddlu Dyfed-Powys a’r CHTh ar y prosiect pwysig hwn. Ein nod yw darparu eiriolaeth a chymorth hanfodol ar gyfer dioddefwyr stelcio perygl uwch a gwella dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol lleol o stelcio a’u hymateb iddo. Mae’r cynllun peilot hwn yn anelu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan stelcio.”

Bydd y prosiect yn cael ei gynnal fel cynllun peilot i gychwyn, gyda’r potensial i’w ehangu yn y dyfodol yn seiliedig ar ei lwyddiant. Lleolir y Gweithiwr Achos Eiriolaeth Stelcio Annibynnol ym mhrif swyddfa Paladin, ond bydd yn darparu cymorth o bell, gan sicrhau hygyrchedd ledled ardal Dyfed-Powys.

Ar gyfer dioddefwyr stelcio neu’r rhai sy’n ceisio cyngor, galwch heibio i http://www.paladinservice.co.uk am ragor o wybodaeth neu er mwyn cysylltu â’u tîm cymorth.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 02/09/2024