Yn ddiweddar, croesawodd y Comisiynydd Llywelyn aelodau o fudiad Pobl yn Gyntaf Sir Benfro i’r pencadlys yn Llangynnwr, lle y gwnaethant drafod plismona a diogelwch cymunedol.

Roedd yr ymweliad hwn yn dilyn adborth gan y grŵp a rannwyd drwy’r ymgynghoriad ar y Cynllun Heddlu a Throseddu ac roedd yn cynnig cyfle i siarad yn uniongyrchol â’r Comisiynydd a staff SCHTh am eu profiadau a’u blaenoriaethau.

Yn ystod yr ymweliad, fe wnaeth y grŵp hefyd fwynhau taith o gwmpas Canolfan Gyfathrebu Heddlu Dyfed-Powys a chlywed sut mae galwadau difrys yn cael eu rheoli a sut mae digwyddiadau’n cael eu cydlynu.

Dywedodd y Comisiynydd Llywelyn:
“Mae clywed gan bobl yn uniongyrchol am eu profiadau’n ein helpu i sicrhau bod gwasanaethau plismona a chymorth ledled ardal Dyfed-Powys yn gynhwysol a hygyrch i bawb. Hoffwn ddiolch i’r grŵp am gymryd yr amser i ymweld a rhannu eu barn. “

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 03/11/2025