Pobl Ifainc yn dod â Lliw, Creadigrwydd a Balchder Cymunedol i Aberteifi
Mae pobl ifainc yng Ngheredigion wedi trawsnewid eisteddle rygbi lleol yn ddarn o gelf gymunedol liwgar, gan arddangos effaith gadarnhaol ymyrraeth gynnar ac ymgysylltu â phobl ifainc.
Mae’r gwaith wedi’i gyflwyno drwy waith partneriaeth cryf drwy’r rhaglen Pontydd a Mannau Diogel, a ariennir gan y Swyddfa Gartref ac a ddarperir mewn partneriaeth â Chronfa Gweithredu ar Fannau Problemus Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys (SCHTh).
Mae’r prosiect graffiti yng Nghlwb Rygbi Aberteifi, a arweinir gan ieuenctid, wedi gweld pobl ifainc yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr ieuenctid ac artistiaid lleol i gynllunio a chreu murlun trawiadol, gan ddathlu treftadaeth y clwb a chreadigrwydd y bobl ifainc cysylltiedig.
Mae’r fenter yn ffurfio rhan o weithgarwch estyn allan at bobl ifainc a gyflenwir ledled Ceredigion, gan ddarparu cyfleoedd diogel a chefnogol i bobl ifainc ar adegau allweddol, gan gynnwys ar ôl ysgol a gyda’r hwyr.
Drwy roi ymdeimlad o berchnogaeth i bobl ifainc dros y mannau maen nhw’n defnyddio, mae’r prosiect wedi helpu i feithrin balchder, cryfhau perthnasau cymunedol, a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Mae prosiectau fel rhain yn dangos beth ellir ei gyflawni pan rydyn ni’n buddsoddi mewn atal ac yn rhoi cyfle i bobl ifainc fod yn rhan o rywbeth cadarnhaol.
Drwy gydweithio â phartneriaid ledled ardal Ceredigion, rydyn ni’n gwella mannau lleol ac yn cefnogi pobl ifainc i fagu hyder, datblygu sgiliau newydd, a theimlo cysylltiad cryfach â’u cymunedau.”
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 17/03/2026