Pobl Ifainc – Lluniwch Ein Gwasanaethau

Anogir pobl ifainc ledled ein hardal i ddweud eu dweud a helpu i lunio’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu.
Rydyn ni wedi lansio arolwg byr, Pobl Ifainc: Lluniwch Ein Gwasanaethau — i roi cyfle i bobl ifainc rannu eu barn am yr hyn sydd o’r pwys mwyaf iddynt hwy. Bydd eu hadborth yn helpu i wella a chynllunio gwasanaethau sy’n bodloni eu hanghenion nawr ac yn y dyfodol.
Dywedodd y Comisiynydd Llywelyn:
“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwrando ar leisiau pobl ifainc a sicrhau bod ganddynt lais gwirioneddol mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Anogaf bob unigolyn ifanc i neilltuo munud neu ddau i gwblhau’r arolwg a helpu i lunio’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.”
Rydyn ni’n gofyn i gynghorwyr lleol, sefydliadau ieuenctid, ysgolion, teuluoedd a chymunedau i’n helpu i ledaenu’r gair a chyrraedd cymaint o bobl ifainc â phosibl.
👉 Cymerwch ran fan hyn: Pobl Ifainc – Lluniwch Ein Gwasanaethau
Galwad Agored am Dystiolaeth
Yn ogystal â’r arolwg, mae gennym Alwad Agored am Dystiolaeth hefyd sy’n gwahodd unrhyw un i rannu mewnwelediadau neu brofiadau am sut mae gwasanaethau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gweithio i bobl ifainc 18–25 oed. Mae’n rhan o waith ehangach CHTh i gasglu barn am yr hyn sy’n gweithio’n dda, beth ellid ei wella, a sut y gall gwasanaethau gefnogi pobl ifainc yn well i aros yn ddiogel ac allan o’r system cyfiawnder troseddol. Gellir cyflwyno tystiolaeth yn ysgrifenedig, yn ddienw neu drwy e-bost erbyn 24 Awst 2025.
📢 Rhagor o wybodaeth a sut i gyflwyno:
E-bost: opcc@dyfed-powys.police.uk
neu ysgrifennwch at:
Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys,
Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF
Diolch am ein helpu i sicrhau bod lleisiau pobl ifainc yn cael eu clywed a bod eu profiadau’n llunio newid gwirioneddol.
Gwybodaeth bellach:

Article Date: 01/07/2025