Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn lansio ei Banel Craffu Cymuned nesaf yn Hwlffordd ac yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan.

Bydd y panel yn digwydd yn Hwlffordd ar:

📅 3 Rhagfyr, 2026

🕓16:00 – 19:00

 Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 13 Tachwedd 2026

Bydd aelodau’r panel yn adolygu cysylltiad yr heddlu â’r cyhoedd yn annibynnol, mewn ffordd dryloyw a diduedd. Bydd gwirfoddolwyr yn craffu ar ansawdd rhyngweithiadau’r heddlu, defnyddio pŵer yr heddlu a’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu i gymunedau.

Mae’r panel yn gweithredu fel llais cyhoeddus annibynnol, gan ddarparu barn a chanmoliaethau i Heddlu Dyfed-Powys i helpu cryfhau tryloywder, atebolrwydd a hyder y cyhoedd mewn heddlu.

Dyma gyfle i:

  • Cymryd rhan mewn craffu heddlu annibynnol
  • Helpu dylanwadu ar welliannau mewn ymarfer heddlu
  • Ennill sgiliau a phrofiad o fywyd go-iawn
  • Cynrychioli barn y cyhoedd

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Bydd hyfforddiant a chanllawiau yn cael eu darparu

Dewch i wybod mwy a cofrestru: https://forms.cloud.microsoft/e/BV7rBLn8NC?origin=lprLink

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 04/11/2026