Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda
Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, hoffwn gymryd y cyfle hwn, ar ran Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, i ddiolch ichi am eich partneriaeth a’ch cefnogaeth barhaus drwy gydol 2025.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi cydweithio i gefnogi dioddefwyr, cryfhau diogelwch cymunedol a chyflwyno cynnydd ystyrlon ledled ardal Dyfed-Powys. Mae hyn wedi cynnwys cydweithio ar draws gwasanaethau a sectorau, a’r rôl hollbwysig a chwaraewyd gan bartneriaid a chynghorwyr o ran cefnogi’r blaenoriaethau a rennir gennym.
Rwy’n arbennig o ddiolchgar am eich ymrwymiad parhaus a’r perthnasau adeiladol sy’n eom helpu i ymateb yn effeithiol i angen lleol a chyflenwi canlyniadau cadarnhaol ar gyfer cymunedau.
Bydd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n cau am 5y.h. ar 23 Rhagfyr 2025 ac yn ailagor ar 9y.b. ar 2 Ionawr 2026. Ymatebir i unrhyw ymholiadau a dderbynnir yn ystod y cyfnod hwn pan fydd y swyddfa’n ailagor yn y flwyddyn newydd.
Wrth inni edrych tua’r flwyddyn newydd, rwy’n hyderus y gallwn adeiladu ar y cynnydd hwn ac ymateb yn effeithiol i’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau drwy barhau i gydweithio.
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 22/12/2025