Am y tro cyntaf yn Nyfed-Powys, mae grŵp o Lysgenhadon Ifainc wedi dal Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, i gyfrif, yn dilyn canfyddiadau o ymgynghoriad Y Sgwrs llynedd. Rhoddodd y sesiwn Bwrdd Plismona gyfle i bobl ifainc fynegi pryderon a holi cwestiynau uniongyrchol mewn perthynas â’r materion y tynnwyd sylw atynt yn yr adroddiad.

Datgelodd adroddiad Y Sgwrs, sef ymgynghoriad cynhwysfawr gyda phobl ifainc ledled y rhanbarth, bryderon allweddol o gwmpas diogelwch cymunedol, cymorth iechyd meddwl, a rôl plismona yn eu bywydau bob dydd. Mewn ymateb, gwahoddodd y Comisiynydd Lysgenhadon Ifainc i ymgysylltu ag ef yn uniongyrchol er mwyn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod yr hyn maen nhw’n dweud yn cael ei weithredu.

Adlewyrchodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, ar bwysigrwydd yr ymgynghoriad a’r sesiwn, gan ddweud, "Rhoddodd adroddiad Y Sgwrs fewnwelediadau gwerthfawr inni i bryderon a blaenoriaethau pobl ifainc yn Nyfed-Powys. Roedd sesiwn heddiw’n ffordd dda o ddilyn trywydd y canfyddiadau hynny, gan roi cyfle i’r Llysgenhadon Ifainc fy nal i’n atebol a thrafod sut yr ydym yn mynd i’r afael â’u pryderon. Yr wyf wedi ymrwymo i sicrhau bod eu lleisiau’n parhau i lunio ein blaenoriaethau plismona."

Yn ystod y sesiwn, holodd y Llysgenhadon Ifainc amryw o gwestiynau, gan dynnu ar y themâu o’r adroddiad, a mynd i’r afael â phynciau megis plismona cymunedol, iechyd meddwl, ac ymgysylltu â phobl ifainc.

Sylwodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis, ar effaith cysylltiad ieuenctid mewn plismona, "Rhoddodd cyfarfod heddiw gyfle i bobl ifainc sy’n cynrychioli ein cymunedau gael eu clywed a rhoddodd gyfle i’r Llysgenhadon Ifainc herio’r heddlu a chaniatáu i drafodaethau gael eu cynnal gan hefyd eu hysbysu am y gwaith yr ydym yn ei wneud er mwyn bodloni anghenion pobl ifainc ledled ein hardal heddlu."


Rhannodd un o’r Llysgenhadon Ifainc, ei farn am y profiad, "Roedd yn wych i allu holi Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n uniongyrchol yn seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad Y Sgwrs. Mae’n dangos bod ein lleisiau a’n pryderon yn cael eu trin o ddifri. Gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at newidiadau gwirioneddol sy’n gwneud gwahaniaeth i bobl ifainc yn Nyfed-Powys."

Mae ymgynghoriad Y Sgwrs wedi chwarae rôl ganolog o ran rhoi llwyfan i bobl ifainc ddylanwadu ar blismona yn eu cymunedau, ac mae cysylltiad y Llysgenhadon Ifainc yn sicrhau bod y materion hyn yn parhau’n flaenoriaeth i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’i dîm wrth symud ymlaen.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 18/09/2024