Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi bod allan hwnt ac yma’r hydref hwn yn hyrwyddo ei chyfleodd gwirfoddoli ochr yn ochr â thîm recriwtio Heddlu Dyfed-Powys mewn cyfres o ddigwyddiadau cymunedol a gyrfaoedd lleol.

Ar 30 Hydref, aeth ein tîm i Ffair Wirfoddolwyr yn Neuadd y Farchnad, Aberteifi, gan siarad â phreswylwyr â diddordeb mewn rhoi eu hamser i gefnogi plismona a diogelwch cymunedol.

Ar 6 Tachwedd, roeddem yn Llyfrgell Llanelli ar gyfer ffair yrfaoedd, yn rhannu gwybodaeth am gynlluniau gwirfoddoli’r Comisiynydd, gan gynnwys Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, Llysgenhadon Ieuenctid, a’r Panel Sicrhau Ansawdd.

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn:
“Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hollbwysig o ran ein helpu i ddatblygu cymunedau cryfach a mwy diogel, ac mae’n galonogol gweld cymaint o bobl yn awyddus i gymryd rhan.”

Yr wythnos nesaf, ar ddydd Mawrth 12 Tachwedd, byddwn ni yn Neuadd Ddinesig San Pedr o 10y.b. tan 1y.h., felly os ydych chi yn yr ardal, galwch heibio i ddysgu mwy am wirfoddoli a gyrfaoedd plismona ledled ardal Dyfed-Powys.

Cewch ragor o wybodaeth am ein cynlluniau gwirfoddoli fan hyn: Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 06/11/2025