Mae Heddlu Dyfed-Powys (HDP) a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) wedi cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2024-2028, sydd wedi’i anelu at wella cydraddoldeb a chynwysoldeb o fewn yr heddlu a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh).

Amcanion Allweddol
Mae gan y cynllun newydd bedwar amcan allweddol. Eu nod cyffredinol fydd mynd i’r afael â heriau cydraddoldeb a chynwysoldeb, gan sicrhau gwasanaeth teg ac effeithiol i bob cymuned.


Cynyddu Amrywiaeth y Gweithlu: Mae’r cynllun yn pwysleisio amrywio’r gweithlu a grwpiau gwirfoddol i adlewyrchu cymunedau Dyfed-Powys yn well. Mae’n amlinellu cynlluniau sy’n anelu i wella recriwtio, cadw, a datblygiad gyrfa, gyda thargedau clir i sicrhau gweithlu cynrychioladol.  

Dileu Gwahaniaethau ar Sail Hil: Mewn ymateb i fentrau cenedlaethol a lleol, mae’r cynllun hefyd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â gwahaniaethau ar sail hil yn HDP a SCHTh a’u dileu. Mae hyn yn cynnwys gweithredu polisïau sy’n hyrwyddo cydraddoldeb hiliol a glynu wrth ganllawiau o Gynllun Gweithredu Hil yr Heddlu Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, a Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru.

Cryfhau Perthnasau Cymunedol: Mae’r cynllun yn ceisio datblygu a gwella perthnasau rhwng yr heddlu a chymunedau lleol drwy ymgysylltu a phlismona cymunedol rhagweithiol. Mae hyn yn cynnwys datblygu strategaethau ymgysylltu cymunedol ystyrlon, sefydlu mecanweithiau adborth tryloyw, a defnyddio Swyddogion Ymgysylltu’n effeithiol.

Hyrwyddo Diwylliant Cynhwysol: Prif amcan yw meithrin diwylliant o gynwysoldeb a pharch yn HDP a SCHTh. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant amrywiaeth gorfodol, hyrwyddo mecanweithiau adrodd mewnol, a mynd i’r afael ag unrhyw ymddygiad hiliol, gwreig-gasaol neu homoffobig.  


Gweithredu a Monitro

Bydd ymdrechion yn canolbwyntio ar ddileu rhwystrau i recriwtio, cynyddu cyfleoedd mentora, a gweithredu hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant gorfodol. Dilynir cynnydd drwy adolygu data recriwtio, monitro amrywiaeth mewn cynlluniau gwirfoddoli, ac asesu adborth a geir gan y gymuned ac aelodau staff, gydag adroddiadau cynnydd blynyddol yn cael eu cyhoeddi er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd. Mae’r cynllun hwn yn cyd-fynd â gweledigaethau plismona cenedlaethol ehangach, gan gynnwys Gweledigaeth Blismona 2030 Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, ac mae’n cefnogi amcanion Cynllun Cydraddoldeb 2010.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, “Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd yn nodi cam arwyddocaol ymlaen yn ein hymrwymiad i feithrin gwasanaeth heddlu sydd wir yn adlewyrchu ac yn gwasanaethu ein cymunedau amrywiol. Drwy ganolbwyntio ar fwy o amrywiaeth a chynwysoldeb, rydyn ni’n anelu i adeiladu perthnasau cryfach a mwy ffyddiog gyda’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.”

Ymrwymiad y Prif Gwnstabl

Pwysleisiodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis bwysigrwydd cefnogaeth y cyhoedd mewn plismona, gan ddweud, “Mae cefnogaeth y cyhoedd wrth galon plismona, ac mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu ein hymrwymiad i feithrin amgylchedd diogel a chynhwysol ar gyfer pob aelod o bob cymuned yr ydym yn ei gwasanaethu, a phob aelod o’r teulu plismona.  

Ymhelaethodd Dr Richard Lewis am gyflenwi’r cynllun, “Drwy gyflenwi’r cynllun hwn, cyflwynwn wasanaethau plismona gydag unplygrwydd a thegwch – gan sicrhau bod pawb yn cael ei drin gyda pharch ac empathi.

“Drwy weithredu rhaglenni hyfforddi targedig, gwella mentrau ymgysylltu cymunedol, a dal ein hunain yn atebol i’r safonau ymddygiad uchaf, yr ydym yn anelu i feithrin ffydd a hyder yr holl gymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

“Cydnabyddwn fod hyn yn golygu bod yn rhaid inni wrando ar, a deall, y materion sy’n bwysig i breswylwyr, a darparu gwasanaeth sy’n weithredol, amlwg a hygyrch

“Rydyn ni wedi ymrwymo i ymgysylltu’n llawn â’n cymunedau fel ein bod ni, gyda’n gilydd, yn creu cymdeithas lle mae pawb yn cael ei drin yn gyfartal, beth bynnag fo’u cefndir, a bod gweithlu’r heddlu’n cynrychioli’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”

Article Date: 01/08/2024