Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i’n Diwrnod Agored ar gyfer Ieuenctid ym Mhencadlys yr Heddlu heddiw a’i gefnogi!

Daeth y digwyddiad â phobl ifainc o bob cwr o’r rhanbarth at ei gilydd am gyfle unigryw i archwilio i yrfaoedd posibl mewn plismona a’r gwasanaethau cyhoeddus. Gwych oedd gweld cymaint o frwdfrydedd, chwilfrydedd, ac ymgysylltiad gan bawb a oedd yn bresennol.

Roedd uchafbwyntiau’r dydd yn cynnwys y canlynol:

  • Cŵn yr Heddlu, sydd bob amser yn boblogaidd, a syfrdanodd yr ymwelwyr â’u sgiliau a’u harddangosiadau.
  • Yr Ystafell Ddianc Seiberdroseddu, a roddodd olwg ymarferol ar y ffordd y mae swyddogion yn mynd i’r afael â bygythiadau seiber.
  • Sgwrs a thaith tu ôl i’r llenni o Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu, a roddodd mewnwelediad gwirioneddol i’r ffordd y mae galwadau 999 ac 101 yn cael eu rheoli.
  • A’n Tîm Dronau gwefreiddiol, a ddangosodd y dechnoleg arloesol sy’n cefnogi plismona modern.

Roedd y diwrnod yn llawn dysgu rhyngweithiol, sgyrsiau ysbrydoledig, a mewnwelediadau gwerthfawr i’r llu o rolau a llwybrau gyrfa gwahanol o fewn y maes plismona.

Diolch i’r holl swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a gwesteion a helpodd i’w wneud yn llwyddiant.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 03/05/2024