Diwrnod Ymgysylltu Cymunedol yn Ne Powys

Ar Ddydd Mercher 26ain o Fawrth, cynhaliais Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol ym Mhowys, gan ymweld ag ardal Aberhonddu a Chrughywel. Yn ystod y diwrnod ymwelais â Choleg Bannau Brycheiniog NPTC, yn ogystal ag Ysgol Uwchradd Crughywel i siarad â phlant a phobl ifanc am eu barn am Blismona yn yr ardal, ac i egluro fy rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Ymwelais hefyd â POBL, sy'n rhedeg ein Cynllun Dargyfeirio Troseddwyr yma yn Nyfed-Powys sy'n anelu at ddargyfeirio troseddwyr lefel isel i ffwrdd o'r System Cyfiawnder Troseddol.
Yn y prynhawn, bûm mewn cyfarfod â chynrychiolwyr o Gyngor Tref Crughywel, a oedd wedi codi rhai pryderon ar ôl derbyn gohebiaeth gennyf i ynghylch y defnydd o Orsaf Heddlu bresennol Crughywel yn y dyfodol. Roeddwn yn falch o allu rhoi sicrwydd i’r Cynghorwyr y bydd gan Swyddogion a PCSOs ganolfan o hyd yng Nghrughywel pan fydd yr orsaf leol yn cau, drwy ein gwaith ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ni fydd pobl Crughywel yn gweld unrhyw wahaniaeth yn y gwasanaeth gan Heddlu Dyfed-Powys oherwydd adleoli canolfan yr Heddlu o fewn y dref.
Yn ystod y prynhawn hefyd, cynhaliodd staff o’m Swyddfa ddigwyddiad Cymhorthfa Gymunedol yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, lle buont yn cyfarfod â thrigolion lleol i gael dealltwriaeth o bryderon a materion lleol, a hefyd i hyrwyddo ein cyfleoedd gwirfoddoli a’r Cynllun Heddlu a Throseddu newydd a lansiwyd gennyf fis diwethaf.
Gyda’r hwyr, bûm yn cynnal cyfarfod cyhoeddus â Chyngor Tref Aberhonddu, yn Neuadd y Dref, ac yng nghwmni’r Prif Gwnstabl Richard Lewis ac Uwcharolygydd Dyfed-Powys, John Rees. Hoffwn ddiolch i bob aelod o’r cyhoedd a gymerodd amser i fynychu’r digwyddiad i drafod eu pryderon gyda ni, yn enwedig i Gadetiaid yr Heddlu, a ddaeth draw i siarad â mi am rywfaint o’r gwaith gwych y maent wedi bod yn ei wneud yn lleol yn ardal Aberhonddu.
Article Date: 27/03/2025