Ddydd Iau, 19eg Mehefin, treuliais y diwrnod ym Mhowys yn cyfarfod â chynghorwyr lleol a staff yr heddlu fel rhan o'm hymrwymiad parhaus i welededd a hygyrchedd ar draws ardal blismona Dyfed-Powys.

Dechreuais fy niwrnod yn y Drenewydd, gan gyfarfod â chynghorwyr lleol. Yn ystod y cyfarfod hwn, trafodwyd materion oedd yn bwysig i'r ardal leol, fel rhan o'm hymrwymiad parhaus i ymgysylltu â'r gymuned a gweithio mewn partneriaeth.

Gan barhau o gyfarfodydd y cynghorwyr, ymwelais â nifer o orsafoedd heddlu. Roedd y rhain yn cynnwys y Drenewydd, Llandrindod, ac Aberhonddu. Drwy gydol fy ymweliad, cefais y cyfle i siarad â nifer o staff yr heddlu o wahanol rengoedd ac adrannau, a roddodd fewnwelediad gwerthfawr ar blismona yn ardal Powys. Yn ystod y trafodaethau hyn, siaradom am yr arolwg mewnol a lansiais i gefnogi recriwtio'r Prif Gwnstabl nesaf. Mae mewnwelediad i farn fewnol yn allweddol i mi ddeall beth sydd ei angen ar staff yr heddlu a pha rinweddau maen nhw'n chwilio amdanynt yn y Prif Gwnstabl nesaf.

Mae ymweld â gwahanol gymunedau yn ardal Dyfed-Powys dros yr ychydig wythnosau diwethaf wedi cynnig cydnabyddiaeth amhrisiadwy o feysydd canmoliaeth a meysydd o bryder i'r cyhoedd, cynghorwyr, a staff yr heddlu.

Diolch i bawb rydw i wedi cwrdd â nhw am eu hamser a'u gonestrwydd.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 19/06/2025