Treuliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn y diwrnod yn Llanelli ddydd Mercher 13 Mai fel rhan o ymweliad ymgysylltu â'r gymuned, gan gyfarfod â gwahanol sefydliadau ar draws y gymuned.

Treuliodd y Comisiynydd ran gyntaf y diwrnod ymgysylltu â'r gymuned yn ymweld â Threshold yn eu swyddfa newydd yn Llanelli. Mae Threshold yn sefydliad allweddol sydd wedi ymrwymo i ddileu cam-drin a thrais yn erbyn menywod, dynion a phobl ifanc, a’r rheini sy’n cyflawni troseddau. Parhaodd yr ymweliad i dynnu sylw at y gwasanaethau pwysig y mae Threshold yn eu darparu megis lloches, cwnsela a gwasanaethau cyfryngu.

Wedi hynny, ymwelodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu â'r orsaf heddlu leol i siarad â thîm plismona ac atal bro Llanelli. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch llwyddiannau lleol, heriau i bobl leol, a phwysigrwydd plismona amlwg mewn cymunedau.

Yn ystod y prynhawn, cyfarfu'r Comisiynydd ag aelodau tîm gwahanol o Cymorth i Ddioddefwyr. Roedd hyn yn cynnwys aelodau tîm o wasanaeth cefnogi dioddefwyr troseddau casineb Cymru, gwasanaeth aml-droseddau a'r gwasanaeth tystion. Mae'r tri thîm o fewn Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu cymorth hanfodol i'r rheini sydd wedi dioddef trosedd neu wedi'u heffeithio gan drosedd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:

“Mae siarad â Threshold, tîm plismona ac atal bro Llanelli a Cymorth i Ddioddefwyr wedi bod yn brofiad addysgol ac wedi rhoi’r cyfle i mi ddysgu mwy am y problemau y mae cymunedau Dyfed-Powys yn eu hwynebu. Mae'r gwaith hanfodol y mae'r timau hyn yn ei wneud i'n cymunedau yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n fawr gennyf i a'r rheini a allai fod angen eu gwasanaethau.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am Threshold: https://threshold-das.org.uk/cy/

I gael ragor o wybodaeth am Cymorth i Ddioddefwyr: https://www.victimsupport.org.uk/help-and-support/get-help/support-near-you/wales/

Gwybodaeth bellach: OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 13/05/2026