2024 Wythnos y Gwirfoddolwyr

I ddathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr o 1-7 Mehefin 2024, mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn falch o gydnabod a hyrwyddo’r cynlluniau gwirfoddoli amrywiol sy’n ei gefnogi â’i weithgarwch sicrwydd a chraffu. Mae pob grŵp yn chwarae rhan hollbwysig o ran cefnogi ein hymdrechion plismona, tra bod ein gwirfoddolwyr ymroddedig yn gwasanaethu mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

Llysgenhadon Ifainc: Gan rymuso lleisiau ifainc i ddylanwadu ar bolisïau plismona, mae Llysgenhadon Ifainc yn ymgysylltu â’u cymheiriaid i gasglu mewnwelediadau ac adborth, gan sicrhau bod safbwyntiau pobl ifainc yn cael eu hystyried mewn prosesau penderfynu.

Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr: Mae’r fforwm hwn yn rhoi llwyfan i ddioddefwyr trosedd rannu eu profiadau a’u hadborth, gan helpu i lunio gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u hanghenion yn cael eu bodloni.  

Panel Sicrhau Ansawdd: Mae aelodau’n adolygu gwasanaethau’r heddlu er mwyn sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal. Mae’r panel hwn yn craffu ar agweddau amrywiol o waith yr heddlu, gan gyflwyno argymhellion ar gyfer gwelliannau a dal yr heddlu’n atebol.

Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd: Mae gwirfoddolwyr yn ymweld â dalfeydd yr heddlu er mwyn cadw llygad ar les carcharorion, gan sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal a’u bod nhw’n cael eu trin ag urddas a pharch.

Ymwelwyr Lles Anifeiliaid: Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn goruchwylio’r ffordd y mae anifeiliaid yr heddlu’n cael eu trin, gan sicrhau eu bod nhw’n derbyn gofal priodol a bod eu hanghenion lles yn cael eu bodloni.

Panel Craffu Annibynnol ar Ddalfeydd: Mae’r panel hwn yn gwella tryloywder o ran gweithdrefnau dalfa drwy adolygu arferion, nodi meysydd y mae angen eu gwella, a sicrhau bod hawliau carcharorion yn cael eu diogelu.

 

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig o ran fy nghefnogi â’m gweithgarwch craffu a sicrwydd. Mae eu hymrwymiad a’u hymroddiad yn ein helpu i feithrin ymddiriedaeth a gwella ein gwasanaethau. Yr ydym yn ddiolchgar dros ben am eu gwaith caled a’u heffaith gadarnhaol ar ein cymuned. Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn gyfle i gydnabod y cyfraniadau amhrisiadwy hyn ac annog mwy o bobl i gymryd rhan. Daw ein gwirfoddolwyr o bob cefndir, gan ddod â phrofiadau a sgiliau amrywiol sy’n cyfoethogi ein cymuned ac yn cryfhau ein hymdrechion plismona.

Os ydych chi’n angerddol dros wasanaeth cymunedol ac eisiau gwneud gwahaniaeth, ystyriwch wirfoddoli gyda ni. Gall eich cysylltiad arwain at newid ystyrlon.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i wirfoddoli ar gyfer unrhyw un o’r cynlluniau uchod, galwch heibio i https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/atebolrwydd-a-chraffu/cynlluniau-gwirfoddoli/.

Article Date: 03/06/2024